Richard. Y mae-efe ei hun wedi ysgrifenu prif ddygwyddiadau ei fywyd yng nghoflyfr Ystrad Meirig, ac felly ni a'i rhoddwn i mewn yma: -"Hydref, 1765, gadawais yr ysgol hon, Ystrad Meirig, gan ail gymmeryd at fy ben alwedigaeth o ysgolfeistr yng Nghapel Wdstog, ym mhlwyf Ambleston, swydd Benfro. Wedi hir flino ar Drefnyddiaeth, ac wedi ymdrechu cyrhaedd sefyllfa arall, yn neillthuol un yn Nhy Ddewi, ac wedi methu; llettywn yn nhy Mr.: John Harries, pregethwr y Trefnyddion; dyn rhyddfrydig a theilwng, er ei ymbleidiaeth; ond ymryddhawn gymaint ag allwn oddi wrth y ty cwrddi a'r Trefnyddion ac oddi ar argyhoeddiad, elwa'i Eglwys Ambleston. bob dydd Bul. Yng ngwyliau Nadolig, yr.un flwyddyn; dywododd Mr. John Harries wrthyf; fod eisiau ysgolfeistr yn Aberteifi, gan fy annog i'w cheisio. Gwnaethym hyny, a llwyddais, yn benaf trwy ddylanwad James Lloyd, Mabwys; Ysw.; James-Bowen, Llwyngwair. Ysw, a Thomas. Collby Rhos y Gilwen, Ysw. Aethym i'm sefyllfa newydd yn Ionawr; 1766, ac ar y pryd yn llawn 20 oed. Mi. Lafuriais yma yn ddiwyd iawn a chyda llwyddiant da hyd Nadolig, 1770. Cefais fy urddo yn ddiacon, Nadolig, 1768, gan yr Esgob Moss, yn St. George's,: Hanover-square Llundain ar y pryd hob fod yn 23 oed hyd y Pasg canlynol. Ym Medi, 1770.cefais fy urddo yn offeiriad yn Abergwili, gan Dr. Moss: - Fy nheitl. Bob tro oedd. Y Ferwig ger Aberteifi, a phregethwn hefyd yn Aberteifi, yn Seisoneg a Chymraeg. Darllenais y. Gweddiau a phregethais hefyd amryw droion yn Llangoedmor Yn. Rhagfyr, 1770, darfu i'r. Parch. W. Lucas, rheithor. Peterston, yr hwn oedd newydd briodi Ann, merch henaf. Lloyd Morgan, Ysw., o Aberteif, gael i mi ail-guradaeth Ross, swydd Henffordd (gan fod dau gurad at waith yno), am y. tal o 40p. y flwyddyn, ac ysgol waddoledig o ddeg punt y flwyddyn, a pha beth bynnag a allesid wneyd o'r ysgolheigion heb law hyny. Y rheithor ar y pryd oedd Dr. Egerton, pryd hyny Esgob. Lichfield a Coventry. Cymerais at y guradiaeth a'r ysgol yn Ionawr, 1771.. Parheais yma hyd Hydref, 1776." Yng ngwanwyn 1771, cafodd Dr. Egerton ei symmud i Durham; a Mr. Theophilus Meredyth, pryd
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/257
Prawfddarllenwyd y dudalen hon