hyny rheithor Senton, yn y gymmydogaeth, a benodwyd gan Arglwydd North yn Rheithor Ross, yr hwn a'm parhaodd yn fy nghuradiaeth, ac yn raddol a roddodd lawer o ymddiried yn fy ngonestrwydd, fy ffyddlondeb, a'm cyflawniad doeth o'm dyledswydd. Parhaodd yn rheithor rywle dros bedair blynedd. Yn y flwyddyn olaf, tra yr oedd yn pregethu yn aml ei hun, myfi oedd ei unig gurad am 70p. y flwyddyn, & gwobrwyon y wisg, pryd y rhoddais i fyny yr ysgol i arall. Yn Hydref, 1775, bu. farw, er fy nygn golled (o blegid yr oedd wedi ymdrechu unwaith neu ddwy i gael i mi ryw ddyrchafiad bychan, ac yn debyg mewn amser y buasai yn llwyddo, gan fod ganddo gysylltiadau uchel); a Dr. Charles Morgan, capelydd i Dr. Beau, Esgob Henffordd, a'i dilynodd trwy lwyaroddiad yr esgob. Gwnaeth y Dr. Morgan fy mharhau fel ei unig gurad. Ond profodd y gwaith yn ormod i mi. Nid oedd genyf mwyach un rheithor i wneyd yn agos hanner fy. ngwaith ar y Suliau. Preswyliai Dr. Morgan yn Henffordd, ac ni phregethodd ond unwaith yn ystod y gweddill o'm harhosiad yn Rosan. Ym Mai, 1776, daeth ym mlaen. boen yn fy ochr a'm dwyfron, gyda pheswch cyffrous; a theimlwn weithiau gryn anhawsder i gyflawnu fy ngwaith. Cefais fy nghyngbori i gymmeryd gwibdaith. Marchogais at fy mrawd Dafydd i Marlborough, lle ac yn y gymmydogaeth y treuliais dair wythnos neu ragor. Dychwelais, gan ail-gymmeryd at fy nyledswyddau offeiriadol; ond pa fwyaf yr ymdrechwn, mwyaf anghymhwys yr elwn at fy ngorchwyl. Ymgynghorais o'r dechreuad â'r meddygon goreu yn fy nghyrhaedd (a charedig iawn y cefais hwynt i gurad tlawd); dilypais eu cyfarwyddiadau, ond yn ddiles. O'r diwedd, cynghorasant fi i wneyd prawf o'm hawyr enedigol Yn diwedd. Medi, neu ddechreu Hydref, 1776, gadawai Rosan; a chyrhaeddais dy fy mrawd William, yn Abergwaen, lle y treuliais chwe mis neu ragor. Efe a'm cymmerai yn aml at J. Symmons, Ysw., Llanstinan, ac i Drecŵn, palas y Llyngesydd J. Vaughan; ac ym mhob un: o'r tai, treuliais rai wythnosau, ar wahanol amserau, gan dderbyn llettygarwch a charedigrwydd mawr. Yng ngwanwyn 1777 (bum ar lan yn gweled fy nhad cyn hyn, ond am
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/258
Prawfddarllenwyd y dudalen hon