fyr ennyd), ymwelais &'m swydd enedigol, ac a dreuliais y rhan fwyaf o'r haf hwnw yn nhy fy nhad, ac yn y Mabwys, ond y rhan fwyaf yn y Mabwys. Cefais yn y Mabwys drigfa cyfeillgarcoh a llettygarwch, ac yr oedd meistres y ty (y diweddar Mrs. Lloyd) yn fam mewn sylw a charedigrwydd. Yr oedd y moddion a barhäwn gymmeryd-newid awyr, manol reolaeth, yn raddol yn fy adferu i ryw ran o'm hiechyd arferol, yn ystod y gauaf, ond yn fwy buan ac amlwg yn ystod yr haf. Ym Mawrth, 1777, bu farw fy hen athraw parchus Edward Richard, a daeth ysgol Ystrad Meirig yn wag. Tra yr oeddwn yn bwriadu dychwelyd i Loegr, ac hyd yn oed mewn gafael o guradiaeth yn swydd Hant, oynnygiodd fy hen gyfaill a'm cydysgolor, y Parch. R. Lloyd, ficer Llanbadarn Fawr, i mi ymgeisio am yr yagol wag: Ar ol ychydig, penderfynais dilyn ei gynghor, a dysgwyliais wrth yr ymddiriedwyr. Penodwyd dydd yr etholiad i fod ar Awst 19ydd, yn Nanteos, lle y cefais fy ethol yn athraw Ysgol Ystrad Meirig gan dri o'r ymddiriedwyr ag oedd yn bresennol, sef W. Powell, Nanteos, LL.D., James Lloyd, Mabwys, Ysw., & Thomas Hughes, Hendrefelen, Ysw; ac ar yr un pryd penodwyd fi gan James Lloyd, Mabwys, Ysw., yn athraw Ysgol Lledrod, ar yr hon yr oedd yn unig ymddiriedwr. Yn 1781, yn fuan ar ol y Pasc, cefais fy mhenodi yn gurad y plwyf hwnw, gan y Parch. Mr. Griffiths, periglor Llanfihangel y Creuddyn; ac wedi hyny gwasanaethais ei olynydd, y Parch. Isaac Williams, lle y parheais am naw neu ddeg mlynedd, ar gyflog, y blynyddau cyntaf 10p. y flwyddyn, ac wedi hyny am 12 gini. Gwasanaethais Llanafan am dair neu bedair blynedd am bymtheg gini y flwyddyn. Yn Ebrill, 1793, cefais gan y Dr. Horsley berigloriaeth Llanfair Orllwyn, oddi wrth yr hon y derbyniwn y blynyddau olaf tua 80p. yn flynyddol. Yn 1795, cefais guradiaeth barhäus Blaenporth. Yn 1799, cymmerais drwydded, a gwasanaethais guradiaeth Yspytty Ystwyth ac Ystrad Meirig, ond rhoddais y blaenaf i fyny yn fuan, a gwasanaethais yr olaf am bum neu chwe mlynedd am 15p. y flwyddyn. Ym Mai, 1804, penodwyd fi gan Dr. Burgess i ficeriaeth Nantmêl, Maesyfed, yng nghyd â Llanyre; ac hefyd yn
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/259
Prawfddarllenwyd y dudalen hon