Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/260

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gorweinydd Trallwng, yn Eglwys Golegol Aberhonddu." Yr oedd Mr. Williams yn ysgolor rhagorol, ac yn wr parchus iawn. yn y wlad. Gelwir ef hyd heddyw gan ben bobl Ystrad Meirig "Yr hen Syr." Cyhoeddodd ei Dissertation on the Pelagian Heresy yn y flwyddyn 1808. Bu yn brif athraw Ystrad Meirig am 41 o flynyddau. Bu farw dydd Gwener y Croglith, 1818. Mae yr hunan-fywgraffiad uchod wedi ei ysgrifenu Gorphenaf 24, 1813. Yr ydym yn cael i'r ail gyfrol o'r Cambrian Register, a gyhoeddid gan Mr. Evan Williams, brawd y Parch. John Williams, gael ei chyflwyno i Mr. Symmonds o Lanstinan; ac mae yn amlwg mai ymweliadau y cyhoeddwr â'i frawd yn Abergwaen ger Llanstinan, a fu yr achos o'r arwydd hwnw o barch.

WILLIAMS, JOHN, A.C., o Rydychain, Archiagon Ceredigion, Cynon Ty Ddewi, a Chorweinydd Aberhonddu, oedd fab y Parch. John Williams, prif athraw Ystrad Meirig, & Jane ei wraig, ferch Lewis Rogers, Ysw., Gelli, uchel-sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1753. Yr oedd mam yr archiagon yn disgyn yn gywir o Weithfoed Fawr, Brenin Ceredigion, ac felly did rhyfedd fod calon y dyn mawr hwn mor Gymreig. Yr oedd yr archiagon yn ddyn o nerth corfforol cryf, ac yni meddwl tu hwnt i nemawr o'i gydoeswyr. Dangosodd pan yn ieuanc dalentau llawer mwy na'r cyffredin. Ystyrid ef yn blentyn rhagaddfed, a phan yn fachgenyn dangosai ddeall rhyfeddol o dreiddiol. Aeth ym mlaen mor gyflym mewn efrydiaeth dduwinyddol, fel pan yn un ar bymtheg oed, efe a aeth yn gynnorthwywr clasurol i'r Parch. Thomas Horn, prif athraw Ysgol Cheswick, lle yr arosodd am flwyddyn, gan dderbyn budd oddi wrth ysgoloriaeth galed a llym Westminster, lle y cafodd Mr. Horn ei hun ei addysgu. Am y ddwy flynedd ddilynol, efe a lafuriodd fel cynnorthwywr i'w frawd henaf, y Parch David Williams, cydymaith o Goleg Wadbam, Rhydychain, mewn dysgu torf fawr iawn o blant a dyrent i Ysgol Ystrad Meirig, pan gyrhaeddodd y rhif yn un o'r ddwy flynedd i gant a seithdeg tri. Efe a aeth ar ol hyny i Ysgol Llwydlo, lle yr endillodd ysgoloriaeth; ac yn Nhachwedd, 1810, aeth i Goleg Baliol, Rhydychain. Ymhyfrydai yn y llinell o efrydiaeth ag oedd yn myned ym