Lawrence, Winchester, a phrif lywodraeth Ysgol Hyde Abbey, gan dderbyn perigloriaeth Llanbedr, gyda'r ysgol yng nglŷn â hi. Dych welodd i Gymru. Yn yr amser hwn, yr oedd Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi, wedi bod am flynyddau yn casglu yn flynyddol oddi wrth yr offeiriaid swm neillduol o arian tuag at sefydlu coleg, fel y gallai dynion ieuainc a fwriadent fyned i weinidogaeth yr Eglwys . gael addysg golegol Uwch law yr ysgolion gramadegol. Y: cynnyg cyntaf oedd ychwanegu at Ysgol Ystrad Meirig, a'r olaf oedd cael sefydliad hollol newydd yn agos i Landdewi Brefi, ar adfeilion yr ben fangor hwnw a fu gynt. mon enwog. Beth bynag trwy ddylanwad yr archiagon, penderfynodd. yr esgob da hwnw adeiladu coleg yn Llanbedr. Tua'r amser hwn (1824); yr oedd rhagfwriad o sefydlu Athrofa Caereiddin; a chan fod meibion dau o'r cyfarwyddwyr, blaenaf (sef: Mr. Charles Scott, mab ieuengaf Syr Walter Scott a Mr. W. Forbes Mackenzie; mab hennaf Colin: Mackenzie, Ysw, Portmore) o dan addysg yr archiagon, efe a gafodd ei gynghori gan Syr: Walter Socts i gynnyg ei hun fel ymgeisydd am reithoriaeth. Athrofa. Newydd Caereiddin, ac efe a gafodd yn rhwydd ei Ethol. Yr oedd hyn yn 1824 a phan yn myned i Gymdeithas Caereiddin lle yr oedd prif ddinas y Gogledd enwog am ei galluoedd meddyliol ac awen lachar, daeth yn fuan mor enwog a neb ohonynt. Dywedai un bapyrau Caereiddin am dano fel y canlyn:- "Am ddwy flynedd ar hugain; parhaodd. Mr. Williams i gyflawni ei ddyledswyddau, ac arfer y dylanwad perthynol i'w sefyllfa anrhydeddus, gyda'r cyfwng byr o flwyddyn. Yn ystod yr amser hwnw, efe a dderbyniodd ac a ymddiswyddodd y sefyllfa o Broffeswr Lladin ym Mhrifysgol Llundain, gan gymmeryd ei oriau hamddenol at gyfansoddi Life of Alexander the Great. Fel athraw, yr oedd ei feistrolaeth berffaith o'r pynciau ag oedd yn ddysgu yn ei alluogi yn gyffredinol i gyfranu gyda'r gwasanaeth o lyfr yn yr ysgol, cydymdeimlad calonog a mebyd, i gael ei ysgolheigion yn llwyr at ei law, ac i gynnal dysgyblaeth heb arfer gerwindeb; tra yr oedd gwers y dydd wedi ei thrychwilio gyda dosraniad gofalus a manwl, yr oedd sychder y gwaith yn
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/262
Prawfddarllenwyd y dudalen hon