Soho-square, yn cynnwys cyhoeddiadau ac adgyhoeddiadau o wahanol draethodau a phapyaru ar y "Gofyniadau perthynol i Wir Hanesiaeth, Cyfreithiau, Taith, Llenyddiaeth (barddogol, hanesyddol, ac athronyddol), a chyda Chynysgrifau Cynhanesol o'r Achau Celtaidd, yn neillduol y Gangen hòno a gymmerodd feddiant o Brydain Fawr." Mae hwn yn llawlyfr rhagorol i bawb fyddo am gael gwybodaeth Geltaidd. Dywed ei fod wedi gweithio yn galed am ddeugain mlynedd yng nghanol lludded dyddiol ysgolfeistr, heb gael cydnabyddiaeth oddi wrth ei uchafaid mewn gwlad ac Eglwys, na chymmeradwyaeth y cyfoethog a'r uchel-anedig; ei fod yn gweithio dan argyhoeddiad cadarn fod gwybodaeth gyffredinol o'r trysorau cynnwysedig yn hanes y Cymry—fod eu hiaith a'u llenyddiaeth yn tueddu yn gadarn i fywiocae rhyddid crefydd ac annibyniaeth, i gynnysgaeddu eu gwrolion ag offerynau effeithiol, a phrofi fod y rhan fwyaf o ddrygau ag sydd wedi blino y natur ddynol o dan y goruchwyliaethau patriarchaidd, cyfreithiol, ac Efengylaidd, wedi tarddu oddi ar y duedd ddigyfnewid mewn dynion llygredig i osod Gair Duw o'r un effaith a'u traddodiadau eu hunain, ac i fabwysiadu safon arall i'w credo, 'yn hytrach na dadguddiad pur ac anllygredig y mae Efe mewn gwahanol amserau a lleoedd wedi roddi i ddynolryw yn y ddau Destament. Cymmerai ddyddordeb mawr ym mhob peth i ddyrchafu dyn. Dadleuai yn alluog dros y Gymdelthas Genadol a Chymdeithas y. Beibl. Bu farw mewn llawn ffydd, fel athronydd Cristiouogol, gan gyflwyno ei ysbryd i Iachawdwr ei enaid. Bu farw ei wraig Awst 16, 1884: Yr oedd 'hi yn ferch i T. Evans, Ysw., Llanilar. Cadawodd Mr. Williams ar ei ol bump o ferchod. Mae un o honynt yn briod ag R. Cunliffe, Ysw., Chancery-lane.
WILLIAMS, JOHN, a adwaenid wrth yr enw "Williams Lledrod," & aned ym Mhengwern Hir, o fewn milltir a hanner i Rydfendigaid, yn 1747. Enw ei dad oedd William Rhys Mathias ab Dafydd ab Rhys ab Mathias, o'r Llwynboudy; ac' enw ei fam oedd Ann, ferch: Thomas a Mari Rhys, Dol Fawr, Ystrad Meirig. Bu iddynt saith o blant, tri mab & phedair merch. John oedd yr ieuengaf,