iddo yw y Parch. Mr. Williams, offeiriad Aberdyfi Mae Mr. Eben. Jones, Pentref Padarn, yn wyr iddo, ac felly hefyd Mrs. Green, Cilcert, ger Llangeitho. Preswyliai y rhan olaf o'i oes ym Mhentref Padarn. Bu farw Awst 29, 1831, yn 84 oed.
WILLIAMS, JOHN PHILIP, gweinidog y Bedyddwyr ym Mlaen y Waen, oedd unig blentyn John a Gwenllian Williams. Ganwyd ef ar y 24ydd o Dachwedd, 1817, yn y Dref Isaf, plwyf Ystrad Meirig, lle y treuliodd y ddwy flynedd gyntaf o'i oes, pryd y symmudodd ei rieni i Rydfendigaid. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus; ac felly, cafodd yr unig blentyn gryn chwareu teg. Cafodd ei anfon yn ieuanc i Ysgol Ystrad Meirig, yr hon a fwynhaodd am lawer o flynyddau. Yr oedd y pryd hyny yn hoff gan bawb. Arferai y pryd hwnw fyned i gapel y Trefnyddion, ac yr oedd yn hoff iawn o wrando pregethau. Aeth un Sul i Swyddffyndon, i weled bedyddio trwy drochi; ac ar ol clywed araith y gweinidog dros eu dull hwy o gyflawnu yr ordinhad, ymaflodd ysbryd y Bereaid ynddo i chwilio mewn i'r pwnc. Ymunodd â'r Bedyddwyr yng Ngharmel, Rhydfendigaid, y Sul olaf ym Mawrth, 1841. Bedyddiwyd ef gan y Parch. R. Roberts, y gweinidog. Aeth i Aberystwyth i ddysgu bod yn faelwerthwr, lle y cerid of yn fawr. Cyfansoddodd farwnad ar farwolaeth y Parch. W. Evans, y gweinidog. Annogwyd ef i fyned i'r athrofa, ac aeth at yr enwog Mr. Williams, Drefnewydd. Annogwyd ef i bregethu, a dechreuodd Medi 5, 1841, yn Rhydfelen. Bwriadai fyned i'r coleg, ond o herwydd gwendid iechyd, gorfu arno roddi hyny i fyny. Dychwelodd i Rydfendigaid, gan bregethu yno a Swyddffynnon ar droion. Aeth ar daith i Frycheiniog, a chafodd alwad ym Mhant y Celyn. Neillduwyd ef i'r weinidogaeth Rhagfyr 13, 1843. Adeiladwyd capel newydd ym maes ei lafur, o'r enw Salim. Safai erbyn hyn yn uchel fel pregethwr. Pregethodd yng Nghymmanfa Llanfair Caereinion yn 1845, a byth oddi ar hyny bu yn bregethwr cymmanfa. Symmudodd i Blaen y Waen, Llandudoch, Gerazim, a Phenuel, yn 1848. Bu yno yn dra llwyddiannus, ond nid heb ofid. Daeth Undodiaeth i mewn i Landudoch