Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/268

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hyn a achosodd lawer o ofid iddo. Adeiladodd gapel newydd yn Llandudoch, a thra yn casglu ato, cafodd wely laith, yr hyn fu yn achos o'i angeu, meddir. Symmudodd i sir Gaernarfon, ond nid aeth â'i deulu ganddo. Dychwelodd i Landudoch, a chafodd gynnyg i ail sefydlu yno; ond bu farw yn fuan, sef Rhagfyr 13, 1861, yn 44 mlwydd oed. Claddwyd ef yn barchus ym Mlaen y Waen, lle mae cofgolofn hardd ar ei fedd, yn mynegu ei fod yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru' Ysgrifenwyd cofiant iddo gan y Parch T. E. James, Glyn Nedd, lle y mae hefyd amryw o'i bregethau.

WILLIAMS, MOSES, A.C., oedd fab y Parch. Samuel Williams, periglor a Rheithor Llangynllo. Hanai ei fam o Lwydiaid Castell Hywel. Efe a addysgwyd yr Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, o ba le y symmudodd i Brifysgol Rhydychain, lle y cafodd ei dderbyn Mai 31, 1705. Cymmerodd ei radd o B.A. yn nherm Mihangel, 1708, ac a ymgorfforwyd yn yr un radd yng Nghaergrawnt, lle y cafodd ei raddio yn A.C. yn 1718. Ar yr ail o Fawrth, yr hwn oedd ei ddydd genedigaeth, pan yn bedair ar hugain oed, efe a urddwyd yn ddiacon, yn St. James's, Westminster, gan y Dr. Trimmel, Esgob Norwich, ac yn offeiriad yn Fulham, gan Dr. Ottley, Esgob Ty Ddewi, Mai 31, 1713, gan yr hwn y cafodd ei gyflwyno i fywoliaeth Llanwenog, yn ei sir enedigol, yn 1715, trwy rodd yr Arglwydd Ganghellydd Cooper. Efe wedi hyny a sefydlwyd yn 1716 ym mherigloriaeth Dyfynog, Brycheiniog, trwy anrhegiad Tywysog Cymru, ac a lwysfuddiwyd Mawrth 30, 1717. Ymddengys yn ol y coflyfr iddo yn 1718 briodi Margaret Davies o'r plwyf hwnw; ond ni chafodd deulu. Yn 1724, efe a gyfnewidiodd Dyfynog am reithoriaeth Chilton Trinity, a pherigloriaeth St. Mair, Bridgewater. Efe a etholwyd yn gydymaith i'r Gymdeithas Freiniol yn 1732. Yr oedd fel ysgolor Cymreig ac hynafiaethydd yn meddu talentau tryloew, a gwybodaeth helaeth ym mhob modd, fel y gellir yn gyfiawn ei restru yn un o'r blaenaf a gynnyrchodd Cymru erioed, ac yr oedd yn llawn o wres gwladgarwch. Yn y flwyddyn 1726, efe a