Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

ei brynu ef o hono. Ganodd y bardd trallodus gant a saith a deugain o gywyddau i Forfydd, a dywedir iddo fod agos â'i dwyn ymaith unwaith yn rhagor. Gofynodd un cyfaill iddo, a anturíai efe wneyd hyny eilwaith: yntau a atebodd, "Gwnaf yn enw Duw a gwŷr Morganwg;" ac ar ol hyn daeth y dywediad hwn yn ddiareb am hir amser.

Mewn eisteddfod a gynnaliwyd yng Ngwern y Clepa, yn amser Iorwerth III., ennillwyd y gadair am ganu cywydd gan Ddafydd ab Gwilym; ac yn hòno y gwisgwyd Dafydd ag addurn Cadair Morganwg. Mewn eisteddfod arall a gynnaliwyd yn Nolgoch, yng Ngheredîgion, lle yr oedd Sion Cent, Rhys Goch Eryri, y "Tri Brodyr o Farch- wiail," ac enwogion ereill yn bresennol, ennillodd Dafydd ab Gwilym gadair Ceredigion am riangerdd. Un o gydoeswyr Dafydd ab Gwilym oedd Gruffydd Gryg, o Sir Fon. Yr oeddynt hefyd yn gyfeillion gwresog; ond trwy aml gystadlu a senu eu gilydd, aethant unwaith yn dra dwfn mewn gelyniaeth. Canfu rhyw gyfaill â llygad eryraidd ganddo y perygl, ac anfonodd at bob un o honynt i ddywedyd fod y llall wedi marw. Yna, yn llawn teimladau galarus dechreuodd pob un o honynt gyfansoddi marwnad y naill i'r llall; ac wedi iddynt weled y cyfansoddiadau twymgalon, chwarddasant am y gorea, a pharhausant yn gyfeillion am eu hoes. Goroesodd y bardd y rhan fwyaf o'î noddwyr a'i gyfeillion. Bu farw Ifor Hael a'i deulu, ac y mae yn galaru yn dra thwym-galon ar eu hol. Bu farw ei ewythr, Llywelyn Fychan, trwy i haid o wylliaid o Seison Penfro, dori y Ddolgoch, a lladd y pendefig. Y mae ganddo hefyd alarnadau pruddglwyfus ar ei ol yntau,.fel y dengys yr englyn a ganlyn : —

"Wylais lle gwelais lle gwely —— f' arglwydd,
Ond oedd fawrglwy' hyny?
Gâr ateb? Wyf gar itty,——
Gwr da doeth agor dy dŷ!"

Treuliodd y bardd brydnawn ei fywyd ym Mrogynyn; ao y mae ei gyfansoddiadau olaf yn llawn edifeirwoh am ei afradlonrwydd, ac yn cynnwys taer weddîau am faddeuant; ac nid oes modd eu darllen gan un dyn