Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

ystyriol, heb golli dagrau. Y mae yn dangos ffolineb mebyd ac ieuenctyd, ac mor ddiflanedig ydyw oes dyn. Dywedai,—

"Mae Ifor a'm cynghorawdd,
Mae Nest oedd imi yn nawdd,
Mae dan wŷdd Morfydd fy myd,
Gorwedd ynt oll mewn gweryd!
A minnau'n drwm i'm einioes,
Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes."


Ar wely angeu yr oedd y bardd yn meddu ei awen yn ei thlysni, gan ganu yn swynol o galon ostyngedig i ewyllys ei Greawdwr. Bu farw tua'r flwyddyn 1400, a chafodd ei gladdu yn Ystrad Fflur, a dywedir fod y llinellau canlynol wedi bod ar ei feddfaen: —

"Dafydd, gwiw awenydd gwrdd,
Ai ymaith roed dan goed gwyrdd?
Dan lasbren, hoew ywen hardd,
Lle'i claddwyd y cuddiwyd cerdd!

"Glas dew ywen, glân eos* —— Deifi,
Mae Dafydd yn agos;
Yn y pridd maer gerdd ddiddos,
Diddawn i ni bob dydd a nos."

(* Mae yn amlwg nad yw y llinell hon yn gywir. Tebyg mai "Glasdew ywen, glwysdy eos" ydoedd yn wreiddiol.)

Ond y mae tebygolrwydd mai yn Nhal y Llychau y claddwyd ef. Y mae llawer iawn o gynfeirdd a gogynfeirdd, yn gystal a beirdd diweddar Cymru, yn sefyll yn uchel am eu doniau awenyddol; a phe buasai Cymru yn cael sylw teilwng gan genedloedd cymmydogaethol Ewrop, trwy ddysgu ei hiaith, i gael myned i mewn i'w thrysorau llenyddol, buasai bri mawr yn cael ei roddi i'w beirdd a'i llenorion; ond yn ol barn llawer o feirdd yr oes hon, y mae Dafydd ab Gwilym yn sefyll yn uwch na holl feirdd Cymru. Y mae yn dwyn mwy o debygolrwydd i feirdd clasurol cenedloedd ereill. Y mae ynddo ryw dlysni darluniadol ag sydd anghymharol ei eflaith ar y meddwl, pan yn darllen ei waith. Yr oedd ganddo lygad i weled anian, calon i deimlo anian, a glewder medrus i gydfyned ag anian. Ys dywedoedd Talhaiarn, paentiwr anhgymharol