Aur. Mae darlun hardd o hono hefyd yn Dwnn's Heraldic Visitations. Bu mab i'r Iarll, sef Harri VII., o ferch D. ab Ieuan; a'r mab hwnw oedd sylfaenydd yr enw Parry, sef yw hyny, Ab Harri, yng Nghwm Cynon, Gemos, &c. Y mae degau o deuluoedd yn y wlad yn perthyn i'r Ab Harri hwn.
DAFYDD AB LLYWELYN, un o berigloriaid corawl Llanddewi Brefi, yr hwn a gydsyniodd â'r oruchafiaeth yn 1534, ac eilwaith yn 1553.
DAFYDD, IFAN, neu Ifan Dafydd Siencyn, o Gysswch,
yn ardal Llangybi, oedd brydydd yn yr oes ddiweddaf.
Dywedir iddo ddechreu ei yrfa grefyddol yn y Cilgwyn;
ond yn amser y ddadl yng nghylch Calfiniaeth ac Arminiaeth,
efe a ymunodd â chynnulleidfa D. Rowland, yn
Llangeitho. Bu yn newid caniadau ag Ifan Tomos Rhys o
Lanarth, ar Galfíniaeth ac Arminiaeth. Mae dwy gân
o'i eiddo yn Niliau yr Awen gan Ifan Tomos Rhys.
DAFYDD Y COED, bardd enwog a flodeuodd rhwng
1300 a 1340. Mae saith o'i ganiadau yn y Myfyrian Archaiology,
Mae yn debyg taw gwr genedigol o ganolbarth Ceredigion oedd; ac y mae tebygolrwydd arall iddo
fod yn preswylio am ryw amser yn Llanymddyfri.
DANIEL AB SULIEN ydoedd drydydd mab Sulien
Ddoeth, Esgob Ty Ddewi, a chyn hyny o Gôr Llanbadarn
Fawr. Yr oedd Daniel yn Archiagon Powys, ac yn wr
enwog iawn am ei ddysg a'i ddoethineb. Ceir y cofiant
canlynol iddo: — "Yn niwedd y flwyddyn hòno (o gylch
1124) y bu farw Daniel fab Iulyen,[1] Esgob Mynyw, y gwr
a oed gymodrerwr y rwg Gwyned a Phowys yn y terfysg
a oed rygtunt. Ac nid oed neb a allei gael bei nac aglot
arnaw, kanys tangnefedus a charedic oed gan bawp, ac
archdiacon Powys oed."
- ↑ Y mae yn amlwg fod ysgrifenydd yr ymadrodd yma yn barnu mai Iulianus, oedd y cyssefin o Sulgen, ac nis gwn pa fodd idd ei wrthladd, gan fod yr i yn y canoloesoedd, yn cael ei seinio yn j gan y Ffrancod ; ac mewn amryw enghreifftiau, yr oedd y Cymry yn efelychu hyn, mor agos ag y caniatäi anianawd eu hiaith, ac yn rhoddi i'r j sain yr s. A gwelir yn lled aml fod yr g yn dwyn sain yr i, neu y, megys Urbgen, Urien; Kentigern Cyndeyrn, &c.— Carnhuwawc)