Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/42

Gwirwyd y dudalen hon

eiddo: — China and Her Spirütal Claims; Memoirs of the Rev. Samuel Dyer; An Appeal to the Reason and Good Conscience of Catholics; Rest: Lectures on the Sabbath. Efe hefyd oedd cyhoeddwr y gweithiau canlynol: — Letters of the Rev, Samuel Dyer to his Children; Lectures on Christian Theology, by the Rev. Dr. Fayne; and The Works of the late Rev. Dr. Edward Williams of Rotherham. Mae ei nodiadau ar "Bechod Gwreiddiol" a "Bedydd," y rhai a welir yng nghyswllt â gweithiau y Dr. Williams, yn gynllun teg o'r hyn a allai efe wneyd fel meddyliwr ar bynciau arddansoddol.

DAVIES, HUGH, ydoedd enedigiol o Geredigion. Ganed ef yn y flwyddyn 1665. Derbyniwyd ef yn aelod trwy fedydd yn Rhydwilym, sir Benfro, ac urddwyd ef wedi hyny yn weinidog ar yr eglwys hono. Trwy ryw achosion, symmudodd i Abertawy, ac ymfudodd i Bennsylfania, lle y glaniodd Ebrill 26, 1711; a threfnodd Rhagluniaeth iddo ymsefydu yn agos i'r Dyffryn Mawr. Parhaodd yn weinidog ffyddlawn a pharchus tra fu, sef hyd y flwyddyn 1753, pan ymadawodd mewn oedran teg, sef 88 mlwydd oed. Dywed Hanes y Bedyddwyr i'w fraich fod yn boenus yn hir, ac i'r brodyr ei heneinio ag olew gyda gweddi, ac iddi iachau.


DAVIES, JAMES (Iago ab Dewi) a aned ym mhlwyf Llandyssul. Bu am lawer o amser yn preswylio yn ardal Pencader; a threuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes yn Llanllawddog, sir Gaerfyrddin, lle y bu farw Medi 24, 1722, yn 74 mlwydd oed. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys annibynol Pencader, yn amser gweinidogaeth y Parch. Stephen Hughes, gynt o Feidrym. Yr oedd ei gymmeriad crefyddol yn ddysglaer ac uchel iawn ac felly, treuliodd oes ryfeddol o ddefnyddiol. Yr oedd yn fardd da ac yn gyfieithydd rhagorol. Y mae rhai darnau o'i waith wedi eu cyhoeddi ym Mlodau Dyfed, y rhai sydd yn dangos medr dda a chwaeth uchel Y mae yr ysgrifenydd wedi gweled dau hen ysgriflyfr o'i eiddo. Y mae un o honynt yn cynnwys barddoniaeth oll, ac wedi ei rwymo yn gryf a destlus. Yn y llyfr hwn y mae gwaith llawer o'r hen feirdd. Y mae ynddo rai damau o waith Lewis Glyn Cothi,