balas, Tan y Bwlch, ger Aberystwyth, mewn parch mawr gan wreng a boneddig. Efe a briododd Jane, ail ferch Mathew Davies, Ysw., Cwmcynfelyn, o'r hon y cafodd dri mab a merch. Bu farw Mai 10, 1828, yn 51 mlwydd oed.
DAVIES, MOSES, ydoedd fab ieuengaf T. D. Evan, gweinidog y Bedyddwyr yn ardal Sulian. Yr oedd yn orwyr i T. D. Rhys, o Foeddyn. Aeth o gylch y flwyddyn 1749 i ysgol Pont y Pwl, ac oddi yno i Brynbyga, ac wedi hyny i Lundain, dan olygiad Dr. Jennings, Dr. Savage, &c. Bu yn pregethu yn y parthau hyny. Priododd ferch gyfoethog yn Essecs. Bu farw yn 1765.
DAVIES, RHYS, neu RHYS DAFYDD DOMOS, pregethwr cynnorthwyol gyda'r Annibynwyr, a artrefai y rhan
olaf o'i oes yn Saron, plwyf Llangeler, a anwyd ym Mhen
Banc, plwyf Bettws Ifan, yn y flwyddyn 1772. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn lled fore, ac annogwyd ef i
ddechreu pregethu. Aeth i'r ysgol i Glandwr, sir Benfro,
yr hon a gynnelid gan yr enwog J. Griffiths, lle y daeth i
wybodaeth lled dda o'r Seisoneg a'r Lladin. Ar ol gorphen
ei yrfa addysgol, efe a symmudodd i'r Gogledd i gadw
ysgol a phregethu. Efe oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a
fu yn pregethu yn Nhal y Bont, sef yn y flwyddyn 1803.
Yr oedd y pryd hyny yn cadw ysgol ym Mhenal Meirion
Yr oedd boneddiges o'r enw Mrs. Anwyl yn byw mewn lle
o'r enw Llugwy, ger y lle hwnw, yr hon oedd yn aelod
gyda'r Annibynwyr; a thrwy fod cyfeillion a pherthynasau
ganddi yn Nhal y Bont, hi a agorodd y ffordd i Rhys
Davies i fyned yno i bregethu. Arferai Rhys bregethu
ar ben esgynfaen yn ymyl y "Llew Du." Gan fod Rhys
yn rhyfedd o wresog a phoeth yn ei bregethau, daeth lluaws
i wrando. Dilynwyd Rhys yno gan y Parchn. Dr. Philips,
Neuaddlwyd, a T. Jones, Saron, ac ereill. Yr oedd Rhys
yn un o ddynion hynotaf Cymru, yn llawn tân a lluched—
y tân a'r pylor yn ochr eu gilydd bob amser; ac nid oedd
ond y wreichionen leiaf yn ofynol cyn gyru yr hen drysorfa
bylor yn wreichion gwyllt, yn un Etna fawr o dân a mwg,
gwreichion, trystiau ac ufel ofnadwy, nes synu a brawychu
dyeithriaid, a difyru y sawl oedd yn ei adnabod: yr oedd