felly pan yn blentyn. Yr oedd yn arfer rhedeg a neidio, beth bynag, gymmaint ugain o weithiau a'i gyfoedion. Dywedir fod ei dad yn methu yn deg â chael pren digon caled a pharhäus i bâr o esgidiau coed i ddal bythefnos iddo, nes iddo yn y diwedd gael eithin Ffrengig digon praff yng Nghwm Pant yr Odyn. Ar ol cafnu a chymhwyso y pren eithin at draed Rhys, dywedir iddo fethu hollti na threulio y pâr hwnw dan ddeufìs, y rhai allasent ddal dwy flynedd i blant cyffredin. Nid oedd Rhys y pryd hyn ond rhyw bum neu chwe' mlwydd oed. Yr oedd yn llwm tân a lluched crefyddol; ni allasai geisio bendith ar ei fwyd heb boethi, ac yn fynch byddai yn gwaeddi "diolch" a " gogoniant" ddwy neu dair gwaith. Yr oedd yn weddïwr rhyfeddol o aml a thaer; ac ym mhob amgylchiad o eiddo ei hun a'i gydnabod, byddai yn gweddïo yn y fan, mewn modd rhyfeddol. Yr oedd un tro er ys tua phump a deugain o flynyddau yn ol, yn amser adfywiad poeth iawn yn y wlad, yn dechreu y cyfarfod o flaen y Parch. T. Griffiths, Hawen, pan yr erfyniai Mr. Griffiths arno am beidio myned yn boeth ac ym mhell i'r hwyliau, onid e nad allesid byth fyned ym mlaen â'r addoliad. "O'r goreu," ebai yntau. Aeth rhagddo yn fwy-fwy i'r gwynt bob mynyd, gan waeddi " diolch," " gogoniant" yn holl nerth ei beiriannau llafar. Yr oedd y gynnulleidfa yn myned i'r eithafion mewn gwaeddi, a Mr. Griffiths yn tynu godreu ei got bob chwarter mynyd yn arwydd iddo am orphen; ond nid oedd dim yn effeithiol. Ond gan ei fod yn gorphwys mewn rhan ar ei glun bren, cafodd dyniad nes yr oedd ar ei eistedd yn y bregethfa. Ond wedi eistedd, gwaeddai nerth ei geg "Diolch! Diolchl Gogoniant! Gogoniant!" nes yr oedd y cyfan yn un crychias o dònau a llif teimladau trwy yr addoldy.
Pan yr oedd yn pregethu yng nghymmydogaeth Trawsfynydd, aeth William Williams, wedi hyny, y Parch. W. Williams, Wern, i'w wrando. Nid oedd ar y pryd ond tair ar ddeg oed; a dywedir mai y pryd hyny yr ymaflodd y gwirionedd yn ei galon. Fel hyn, iddo ef y priodolir troedigaeth y dyn mawr hwnw. Dywedir mai yr achos iddo golli ei glun oedd neidio mewn " diwygiad" trwy ei