Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

o gylch y flwyddyn 1689; a ba farw yno yn 1714, yn 56 mlwydd oed. Yr oedd yn un o brif bregethwyr a duwinyddion ei oes. Ysgrifenodd amryw fân lyfrau. Y mae ei Faith the grand Evidence of our Interest in Christ, or the Nature of Faith and Salvation, opened from John vi, 40, a gyhoeddwyd yn 1704, yn cael ei ystyried yn waith tra rhagorol yng nghyfrif y duwinyddion enwocaf. Cyhoeddodd farwnad i'w dad yng nghyfraith, yn yr hon y mae llawer o hanes trafferthion ei fywyd. Bu ei dad yng nghyfraith farw tuag 1685, yn 60 oed. Yr oedd Mr. Davies yn fardd rhagorol, a chyfansoddodd lawer o emynau yn yr iaith Seisonig. Gyhoeddodd lyfr emynau o'r enw Hymns composed on seyeral Subjects and on divers Occasions: in Five Parts. Yr oedd y seithfed argraffîad o hono wedi ei werthu yn 1748, a daeth yr wythfed allan yn Llundain yn 1833, dan olygiaeth John Andrews Jones, Mitchell- street Chapel. Mewn un o'r argraffîadau, y mae rhaglith gan Dr. Gill. Dywed iddo fod yn derbyn addysg yn ieuauc o dau Mr. Davies. Mynega ei fod yn athraw rhagorol: a byddai yn fynych yn adrodd y ddwy linell a ganlyn: —

"Si Christum bene scis, satis est. si caetera nescis,
Si Christum nescis, nihil est, si caetera discis."

"Os wyt yn adnabod Crist yn dda, nid oes gwahaniaeth os wyt yn anwybodus mewn amryw bethau ereill : os wyt yn anwybodus o Grist, ni fydd gwybodaeth arall o fawr gwerth." Dywed ei fod yn bregethwr bywiog, gwresog, ac aiddgar o'r Efengyl — fod ei oleuni o honi yn anghymharol eglur a diamwys yn ei bregethau, nid yn unig yn y lle a'r sir lle yr oedd, ond mewn amryw siroedd cyfagos. Pregethai y Gair yn ddiflin mewn amser ac allan o amser, yn yr hyn y bu yn llwyddiannus yn nhröedigaeth llaweroedd, ac yr oedd ol ei lafur am flynyddau lawer ar ol ei farwolaeth. Yr oedd yn Foanerges (mab y daran) pan yn cyhoeddi y gyfraith yn ei lle priodol, ac yn Farnabas (mab dyddanwch) i bechaduriaid trallodus a seintiau llesg. Darfu i'w ddefnyddioldeb achosi iddo lawer o elynion: ni chablwyd, ni ddifenwyd, ac ni warthruddwyd neb yn fwy;