Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

chwithig ar ddiwedd y bregeth. Aeth Llwyd wedi hyny i bregethu i'r Gilgwyn, a hyny ar Sul y Gymmundeb, yr hyn a fu yn dramgwydd mawr i ran helaeth o'r gynnulleidfa. Yn ganlynol i hyny ymranodd y gynnulleidfa. Y mae yn amlwg fod y Gilgwyn yn gryf iawn yn amser Timothy Davies. Aeth amryw gapeli y cylch wedi hyny yn Ariaidd ac Undodaidd; ond dalodd y Gilgwyn heb fyned ym mhellach nag Arminiaidd. Nid oes dim braidd ol yr hen gapel gynt i'w weled: y lle y bu cannoedd yn ymgynnull, a lle y bu llawer o bobl ieuainc yn cadl eu dysgu, sydd yn bresennol yn anghyfannedd -- dim cymmaint a chareg ar gareg. Y mae y capel presennol o'r enw Cilgwyn, ym mhentref Llangybi tua milltir o'r lle yr oedd yr hen gapel. Ar farwolaeth y diweddar Mr. Evan Lewis ymunodd y gynnnlleidfa â'r Wesleyaid. Hyd hyny, arddelent yr enw Presbyteriaid.

DAVIES, William, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Rhyd y Ceisiaid, oedd enedigol o ardal Penrhiwgaled Ganwyd ef Rhag. 31, 1792. Gafodd freintiau rhieni crefyddol ac hefyd gweinidogaeth un o "weinidogion callaf yr oes ddiweddaf sef y Parch. B. Evans, Drewen. Ymunodd â chrefydd pan yn ugain oed. Aeth i Athrofa Neuaddlwyd, a dechreuodd bregethu. Ar ol cynnyddu mewn gwybodaeth o Ladin a Groeg, aeth i Athrofa Llanfyllin, yng Ngorphenaf 11, 1818. Gafodd ei urddo yn Llangollen yn 1822. Yng Ngorphenaf, 1826 symudodd I Ryd y Geiaiaid, lle y terfynodd ei fywyd. Ystyrid ef yn bregethwr gwych ac efengylaidd, ac yn gyfaill a Christion dysyml Bu yn cadw ysgol ramadegol am lawer o flynyddau, i barotoi dynion ieuainc i fyned i'r athrofëydd. Yatyrid ef yn Gymreigydd rhagorol. Bu farw yn sydyn ac annysgwyliadwy iawn Mehefìn 17, 1861.


DAVIES, WILLIAM gweinidog y Bedyddwyr yn Portsea ydoedd fab y Parch. D. Davies, Rheithor Bangor. Dechreuodd bregethu yn 1819. Aeth i Athrofa Bradford, lle y treuliodd bedair blynedd urddwyd ef yn Portsea yn 1826 y ond ni fu yn hir yno. Aeth yn genadwr i Affrica. Ni wyddys pa bryd y bu farw.


DAVIS, BENJAMIN, a anwyd yn y Goettref Isaf, plwyf