Dim ond dwy flynedd y bu ei arosiad yng Nghaernarfon, gan iddo gael gwahoddiad oddi wrth eglwysi Pantteg a Phenuel, ger Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1814. Parhaodd yma am 50 mlynedd, yn terfynu gyda'i farwolaeth, yr hyn a ddygwyddodd ar y Sabbath olaf yng Ngorphenaf, 1864. Ar ynmeillduad yr hybarch D. Peter oddi wrth y coleg yng Nghaerfyrddin, dewiswyd Mr. Davis yn olynydd iddo; ac efe a ddaliodd y swydd hon am 21 o flynyddau, er cyflawn foddlonrwydd i awdurdodau y sefydliad, ac i'r efrydwyr dan ei ofal. Y mae y coleg hwn, er ei fod yn henadurol mewn enw, o dan ardrefniad gwarcheidwaid Dr. Williams; ond llenwir y gadair dduwinyddol fynychaf gan Drindodwr. Yr oedd Mr. Davis yn Drindodwr o galon; ond yr oedd, serch hyny, yn ddigon rhyddfrydig i barchu gonestrwydd a chydwybodolrwydd pleidiau yn coleddu tybiau llwyr wahanol i'r eiddo ei hun. Yr oedd wedi bod am flynyddau yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru; eithr yng nghanol ei nerth a'i boblogrwydd, gafaelwyd ynddo mewn modd ffyrnig yn 1840 gan dwymyn yr ymenydd; ac er ymadferu o hono yn raddol, o ran ei gorff, oddi wrth effeithiau yr afiechyd, eto nis adfeddiannodd byth yr unrhyw nerth ac egni a chynt. Yr oedd ganddo alluoedd naturiol rhagorach na chyffredin, y rhai a ddiwylliwyd ganddo gyda phob dyfalwch. Yr oedd yn efrydydd dyfnddysg o'r natur ddynol a'r Ysgrythyrau; a thaer gymhellai i sylw ei fyfyrwyr yr angenrheidrwydd o ddeall y ddau, cyn ceisio egluro y naill na'r llall; o blegid esbonio peth heb ei ddeall yn gyntaf sydd annichonadwy; a chan fod cymmaint a fyno gweinidogion Crist â dynion ac â'r Beibl, y mae yn anhebgorol iddynt astudio y ddau bwnc pwysig uchod yn drwyadl. Safai braidd wrtho ei hun o ran synwyr cyffredin cryf; a'i ymadroddion oeddynt ddihafal o ran bod yn wastad i'r pwynt ar bob peth. EI amgyffredion oeddynt gyflym, eto mor glaer a'r grisial, ac yn cael eu hamlygu gyda'r nifer lleiaf dichonadwy o eiriau. Ei arddull o bregethu oedd eglur ac ymarferol. Ni wyddys am neb mor debyg iddo yn hyn, a rhyw bethau ereill hefyd, a'r diweddar hybarch Ddr. Philips, Neuaddlwyd, yr hwn a roddodd ddeheulaw cymdeithas iddo pan yn ieuanc,
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/61
Gwirwyd y dudalen hon