ar ei dderbyniad dan ei ofal yn aelod o'r eglwys hòno. Yr oedd rhyw debygolrwydd o ran agwedd corfforol rhwng y Dr. a Mr. Davis yn fwy felly fel yr oedd yr olaf yn, heneiddio. Eithr o ran ansawdd y meddwl, a'r dull o amlygu, yr oedd y tebygolrwydd mwyaf. Rhai anghymharol oedd y ddau am fod yn fyr, eglur, ac i bwynt ar bob peth; oddi gerth ar rai amgylchiadau neillduol iawn, pan lyncid hwy gan ryw deimlad anghyffredin. Fel awdwyr a phregethwyr, hwy a ystyrientient ar eu pwnc ar unwaith, heb ryw ddyrys gylchymadrodd, gan drin yn fyr, eglur, ac i bwrpas. Yr oedd y ddau hefyd yn gwbl rydd oddi wrth hunanoldeb neu falchder Pan yn dal y swydd o athraw, gwelid Mr. Davis yn y boreu yn rhoddi gwersi mewn rhesymeg, Hebraeg, Ac, yn y coleg; ond yn y prydnawn gellid ei weled â'i gryman a'i bigfforch yn ei ddwylaw, yn cau tyllau yn y gwrychoedd, rhag trachwant anghyfreithlawn yr anifeiliaid; o blegid yr oedd efe yn amaethwr yn gystal a gweinidog yr Efengyl ac ysgolor. Nid oedd dim ariangarwch yn perthyn iddo; cyflawnai swyddau ei wahanol gylchoedd gydag hyfrydwch, fel dyngarwr; fel gwas Crist, fel gwasanaethwr ei gydgenedl yn eu diwylliant moesol a chrefyddol, gau ateb cydwybod dda i Dduw; yn hytrach nag fel un yn edrych ar daledigaeth y gwobrwy, yn y byd hwn na'r byd a ddaw. Pan gynnygiwyd codiad iddo gan yr eglwysi o ryw swm yn ei gyflog, ychydig cyn ei farwolaeth, dywedai fod cymmaint swm yn ormod, y gwnelai llai y tro, rhag troseddu ar gasgliadau ereill; ond ei fod ef yn ymdeimlo yr un mor ddiolchgar am y cynnyg er hyny. Byddai dywed am ryw anffawd, neu rywbeth aunymunol yn cyfarfod â rhyw un, yn effeithio yn ddwys ar ei feddwl. Ymdrechai yn fawr galonogi myfyrwyr a gweinidogion ieuainc dan gyfyngderau. Yr oedd o anian heddychol; nis gallasai gynnal gwg, nac anadlu mewn awyr anghydfod. Yr oedd yn wr boneddig trwyadl yn ol gwir ystyr y gair. Meddai enaid eang a rhydd. Yn holl ystod ei weinidogaeth, bu yn enwog a llwyddiannus. Edmygid ef yn fawr gan yr eglwysi dan ei ofal; ac er nad allent ymffrostio mewn aelodau cyfoethog iawn, eto hwy a'i hanrhegasant ar derfyn yr hanner canfed flwyddyn
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/62
Gwirwyd y dudalen hon