Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/65

Gwirwyd y dudalen hon

yn Cumberland, a chadwai ysgol. Nid arosodd yno yn hir; ond arferai un o'i hen ysgolheigion ddwy waith y flwyddyn ddanfon iddo anrheg o arian byth oddi ar hyny, barch iddo, a rhag ofn fod ei gyflog yn rhy fechan i un mor egwan o gorff ag oedd ef. Ei faes nesaf oedd Collumpton, yn swydd Devon, lle y treuliodd y gweddill o'i oes mewn parch mawr yn ei eglwys, a chan ei ysgolheigion, gyda'r rhai y buasai yn eistedd i lawr i'w dysgu, fel arfer, y nos olaf ond un cyn iddo farw. Yr oedd yn ddyn o arferion ysgolheigaidd, yn ddarllenwr mawr, hoff iawn o'r Dr. Nathaniel Lardner, a'r Dr. Joseph Priestley (yr olaf yn gydoeswr), ac yn benderfynol iawn yn y casgliadau a fuasai wedi ffurfio. Gadewid ef yn nodedig o ddi-dderbyn wyneb a chydwybodol, a thrwy orllewin-barth Lloegr adwaenid ef fel "Honest John Davis" Ni fuasai erioed yn briod. Nid oedd yn ddoniol fel pregethwr, ond yn cael ei hoffi a'i ganlyn fwaf gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Bu farw Rhagfyr 16, 1824. Buasai yn gyfaill a chyfarwyddwr i David Jenkin Rees, Llwydjack, a pharhasant yn hoff o'r naill y llall, nes i angeu gymmeryd ymaith y blaenaf yn 1817.

DAVIS, TIMOTHY, o Evesham, ydoedd y trydydd plentyn ac ail fab i'r diweddar Barch. D. Davis, Castell Hywel. Ganwyd ef yn y Plasbach, Ciliau Aeron, Tachwedd 20fed, 1779. Pan o ddeutu pedair blwydd oed, symmudodd y teulu i Gastell Hywel Bu yn efrydydd y clasuron o dan ofal ei dad hyd nes yr oedd yn ddwy ar bymtheg oed; pan y rhoddodd hwynt i fyny am tua dwy flynedd, er mwyn gofalu am y tyddyn oedd gan ei dad. Yr oedd ei syched gymmaint am wybodaeth, fel yr oedd yn myfyrio yn ddiwyd ar ol i lafur a lludded y dydd fyned drosodd, gan gadw ym mlaen gyda'r rhai hyny ag oeddynt yn myfyrio yn ystod y dydd. Wedi ymroi yn y modd hyn i gynnyddu mewn gwybodaeth, cododd awydd arno am fyned i'r weinidogaeth. Priodolai efe yr awydd a gododd ynddo i bregeth Dafydd, ei frawd henaf, un Sul yn Llwyn Rhyd Owain. Yr oedd ei awydd gymmaint am y weinidogaeth, fel y dechreuodd bregethu ar y 12fed o Fai, 1799. Derbynwyd ef i'r athrofa ar y 3ydd o Ionawr,