Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

cyfansoddi caniadau o glod i'r boneddigion lle yr oeddynt yn ymweled, gan gyfrif achau a gorchestion eu hynafiaid. Y mae y bardd hwn, yn y cywydd a ddyfynwyd, yn olrhain llawer iawn o achau y boneddigion. Y mae yn dechreu yn y Tywyn, ym mhlwyf y Ferwig, gan goffa Einion Gwilym, Arglwydd y Tywyn, sylfaenydd y palas hwnw; ac yr oedd yn nai, fab cyfnither, i'r bardd Dafydd ab Gwilym. Y mae Cadifor ab Dinawol, sylfeenydd Castell Hywel, yn cael ei goffa yma. Y mae hefyd Gweithfoed Fawr yn cael ei goffa, o'r hwn y mae teulu uchel y Gogerddan yn hanu. Y mae teuluoedd Coedmor a Gilfachwen Uchaf yn hanu o Gadwgan ab Bleddyn. Wrth y Llawdden yn y cywydd, y mae i ni ddeall, Llawdden, Arglwydd Uwch Aeron, yr hwn oedd yn ei flodau tuag amser Llywelyn ab Gruffydd. Ond yr anffawd waethaf wrth glera a gafodd y bardd hwn, oedd ei siomedigaeth ar ei ymweliad ag Ynys Enlli. Yr oedd wedi clywed mai gwr hael iawn ar ei fwyd a'i ddiod oedd Madawg, Abad Enlli, ac felly cyfansoddodd gân o glod iddo, gan ddysgwyl cael derbyniad caredig yn llys yr Abad yn Enlli; ond yn lle hyny, bara briglwyd, caws cnap, ac enwyn sur a gafodd y bardd! Yn chwerwder y siom, canodd gerdd oganllyd i'r abad, yn cyfodli â chaws drwyddi. Rhydd Meyrick, yn ei hanes o Geredigion, ddwy awdl o'i eiddo, sef un i Dafydd Tomos o Is Aeron, i ddiolch am ba un; ac un arall i Feredydd ab Llywelyn o Uch Aeron.

EDNOWAIN AB GWEITHFOED ydoedd wythfed mab Gweithfoed Fawr, Arglwydd Ceredigion. Yr oedd yn Abad lleyg yn Llanbadarn Fawr yn 1188. Y mae Giraldus Cambrensis yn beio yn llym ar yr arferiad ag oedd yng Nghymru a'r Iwerddon, sef rhoddi yr awdurdod eglwysig yn nwylaw y dynion mwyaf dylanwadol mewn cyfoeth yn y plwyfi, a'r rhai hyny yn defnyddio y fantais o roddi y swyddi cyssegredig i'w tylwyth, gan ergydio ar ben Ednowain.


EDWARDS, David, un o'r gweinidogion ymneillduol cyntaf yn y sir, oedd enedigol o Gellan. Yr oedd ei dad yn fab i Mr. Edwards, Deri Odwyn. Yr oedd D. E. yn gefnder i blant enwog Llwyn Rhys. Ymddengys iddo, fel