ENOCH, JOHN, Milwriad, oedd fab y dywededig John Enoch o Aberarthen Fach, Troed yr Aur. Ymunodd y Milwriad Euoch â'r fyddin pan yn lled ieuanc, a dangoaodd lawer o gymhwysder milwrol yn ei ieuenctyd. Wele res o'i ddyrchafiadau gyda'r 23rd Royal Welsh Fusiliers: Is-raglaw, Mawrth 9fed, 1809; Rhaglaw, Awst 15fed, 1811; Cadben, Gorphenaf 22fed, 1830; Uch-gadben, Ebrill 14ydd, 1848; Is-filwriad, Chwefror 1af, 1851; Milwriad, Tachwedd 28fed, 1854. Gwasanaethodd gyda'r rhyfelgyrch i Walcheren, a gwarchae Flushing, 1809; yn yr Orynys, 1810 hyd 1813; gwarchae Badajos ac Olevensa, 1811; Brwydr Albuera, Mai, 1811; Câd-weithredoedd Fuente Gevuado ac Elbodin, Medi, 1811; gwarchae Ciudad Rodrigo, Ionawr, 1812; Brwydr Salamanca, Gorphenaf, 1812, pan y cafodd ei glwyfo yn drwm, a cheffyl ei ladd o dano; Brwydr Waterlw, ystormio Cambray, a chymmeryd Paris, 1815. Gwasanaethodd gyda'r Royal Welsh Fusiliers o dan y diweddar Syr Henry Ellis, Syr Thomas Pearson, a'r Is-gadfridog Dalmer. Bu farw yn Llundain yn y flwyddyn 1855, tua thrigain a deg oed, gan adael ar ei ol un ferch, yn briod â Dr. Lewis, Piccadilly, Llundain, brodor o Geredigion. Yr oedd y Milwriad Enoch, fel milwr, yn sefyll yn uchel; ac yr oedd hefyd yn gyfuwch fel boneddwr a chyfaill, ac felly perchid ac edmygid ef gan bawb a'i hadwaenai.
EVANS, CHRISTMAS, un o weinidogion enwocaf y Bedyddwyr yng Nghymru, a aned yn Ysger Wen, plwyf Llandyssul, ar ddydd Nadolig, 1766; ac felly cafodd ei alw yn "Christmas." Yr oedd yn hanu o hen deulu tywysogaidd Blaen Cerdin, yr hwn sydd yn disgyn yn gywir o Morydd, Brenin Aberteifl, o gylch y flwyddyn 830; ond er yn hanu o deulu uchel o ran ei fam, eto yr oedd ei rieni yn isel eu hamgylchiadau, ac felly nis gellir dywedyd iddo gael dim manteision dysg. Pan tua dwy ar bymtheg oed, cyflogodd yn was tyddyn gyda Mr. Davis, o Gastell Hywel; a thra yn gwasanaethu yr hen ysgolor yn y dydd, yr oedd yntau yn rhoddi gwersi iddo yn y nos; ac yno, yn y modd hyn, y dechreuodd sillebu a darllen. Cyn hir, efe a ymunodd â'r Henaduriaid yn Llwyn Rhyd