Owain, a chafodd yn fuan ei annog i bregethu. Yr oedd yn pregethu yn achlysurol gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Yn yr amser hwn, fel yr oedd yn dychwelyd o sir Henffordd, collodd ei lygad, trwy i haid o ddyhirod ymosod arno yn hollol ddiachos. Tua'r flwyddyn 1788, efe a ymunodd â'r Bedyddwyr yn Aberduar. Yn fuan ar ol hyn aeth ar daith bregethwrol i Ogledd Cymru, a cheisiwyd ganddo aros yng Nghaernarfon. Cafodd ei urddo yn y sir hòno, a bu fel cenadwr yn gofalu am eglwysi Lleyn. Priododd ag un Catherin Jones, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo fel gweinidog yr Efengyl. Yr oedd yn ymgodi yr amser hwn i hynodrwydd mawr am ei lafur yn y weinidogaeth, ac yr oedd ei athrylith yn synu yr oes. Pregethai weithiau bedair a phum gwaith yn y dydd, gan gerdded llawer o ffordd rhwng y lleoedd. Yr oedd effaith rhyfeddol o lwyddiant yn dilyn — ugeiniau lawer yn cael eu bedyddio yn y gwahanol fanau ym maes ei lafur. Yn 1791, derbyniodd wahoddiad taer i symmud i Ynys Mon; ac ar ol ystyriaeth, ymunodd â'r cais. Treuliodd tua phymtheg ar hugain o flwyddi yn Llangefni, lle nid oedd yn derbyn ond 17p. o gyflog! Dywedir hefyd ei fod yn rhyfeddol elusengar i dlodion; cyfranai yn aml y tipyn olaf yn y ty. Ymledodd ysbryd anhyfryd ym Mon o herwydd daliadau Sandemanaidd, yr hyn, meddir, fu yn achos iddo adael yr ynys. Bu farw ei wraig yn yr amser hwn. Yr oedd hefyd yn isel ei amgylchiadau — dim ond ceffyl o dano, ac ychydig bach yn ei god, yn gadael maes llafur mor galed. Sefydlodd yng Nghaerffili, pryd y priododd yr ail waith, â Mary Evans, o Fon. Symmudodd wedi hyny i Gaerdydd. Aeth i gymmanfa Llynlleifiad yn y flwyddyn 1832, pan y cafodd alwad i fyned i Gaernarfon. Pan ar daith trwy y Deheudir, yn casglu at y capel yng Nghaemarfon, cymmerwyd ef yn glaf yn Abertawy, ac yno y bu farw, Gorph. 19, 1838. Ni fu ond amser byr yn glaf . Bu farw y dyn mawr hwn yn 72 mlwydd oed; wedi treulio 53 o honynt yn y weinidogaeth. Yr oedd Christmas yn un o gewri mwyaf yr areithfa yng Nghymru; meddiannai alluoedd hynod o fawreddog, a'r rhai hyny nodwedd hollol arbenig iddo ei hun. Yr oedd, fel yr
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/73
Gwirwyd y dudalen hon