Wyddfa, yn uchel, mawreddog, ac aruthrol. Yr oedd, yn ddiau, yn ddarllenydd mawr, ac felly yn cynnyddu ei feddwl; ond yr oedd delw gwreiddioldeb o'i eiddo ei hun ar bob peth a draddodai. Yr oedd ei gymhariaethau yn fawreddog ofnadwy, ac yr oedd eu cymhwysiad yn dangos darfelydd, chwaeth, a medr rhyfeddol; ac felly yr oeddynt yn ei bregethau yn gadael rhyw aruthredd annileadwy ar feddyliau y gwrandawyr. Dywedir am ei bregeth Y Mab Afradlawn ei bod yn brawf arbenig o hyn. Yr oedd yn debyg i ffrydiau aruthrol y Niagara, yn anghymharol o fawreddog — fel "uchelgadr raiadr dwr ewyn," a'r olwg a'r Hwn yn synu a phensyfrdanu pawb o'r gwyddfodolion. Deillia dyfroedd aruthrol y Niagara allan o lynoedd mawreddog yr Erie a'r Ontario — nid dyfroedd benthyg tymmestloedd mo honynt; ac felly ffrydiau athrylith Christmas Evans: tarddent allan o lynoedd mawreddog darfelydd a barn ei enaid mawr ei hun, nes synu pawb. Y mae rhai dynion yn fawr yn y pulpud; ond erbyn argraffu eu pregethau, nid oes dim neillduol ynddynt; y mae y darllenydd yn cael ei siomi; ond nid felly Christmas Evans. Y mae ei bregethau ef yn darllen yn ardderchog — yn llawn o athrylith yr awdwr pan yn eu traddodi: y maent wedi eu cyfieithu i'r Seisoneg, ac yn cael eu hedmygu yn fawr gan y Seison ym Mhrydain ac America. Llawer o'r Americiaid a ofynant i'r Cymry yn aml, "Haye you heard the great Christmas Evans?" Y mae argraff athrylith yn hynodi pob peth ag y cyffyrddodd ag ef. Yn gydfynedol â'r galluoedd mawrion hyn, yr oedd yn meddu ar onestrwydd diffuant; hyny yw, didwylledd syml; ac at hyny weithgarwch a duwioldeb, fel yr oedd ei fywyd yn llawn dedwyddwch iddo ei hun a bendith i'r byd. Dywedir ei fod, o ran ei dymmer, yn frysiog ac anwadal; ond yr oedd yn deall hyny yn dda, ac yn gofidio o'r herwydd, gan ymdrechu cadw oddi wrth yr hyn oedd barod i'w amgylchu. Yr oedd yn un o areithwyr dirwestol mwyaf enwog Cymru. Yr oedd hefyd yn sefyll yn uchel fel llenor. Yr oedd wedi dysgu ei hun i raddau lled bell, ac felly wedi dyfod i wybodaeth o'r Groeg a'r Hebraeg pan wedi myned ym mlaen yn lled bell mewn dyddiau.
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/74
Gwirwyd y dudalen hon