ddarllen mewn unrhyw iaith; ac y mae ei "Gydymdeimlad â'r luddewon" megys yn coroni y cyfan. Y mae yr oll o Winllan y Bardd yn dangos syniadau dynol a Christionogol — lledneisrwydd dyngarol yn goglais y darllenydd nes ei ennill i'r teimladau mwyaf hyfryd a thyner wrth ei ddarllen; ac y mae pob llinell a gyhoeddodd yn tueddu i wneyd dyn yn well. Nid ffugio teimladau tyner yr oedd efe, ond yr oedd felly mewn gwirionedd. Ys dywedodd Ioan Cunllo, —
"Ei dyner fron ni adwaenai— ddichell,
Heddychol y byddai;
Tirion i r gwan tosturiai,
Wrth fab gofid bid lle bai."
Yr oedd hefyd yn hynod hunanymwadol. Yr oedd camwri eisteddfodol yn cael ei gyflawnu y pryd hyny, fel yn bresennol; a phan ddeallodd fod y beirniaid wedi rhoddi iddo wobr am awdl (1) o herwydd cael un gair anfoddhaol mewn awdl arall o deilyngdod mawr, efe a ddangosodd anfoddlonrwydd neillduoI, gan draethu ei fod yn credu taw ei adnabod ef oeddynt, ac y dylasent wneyd fel arall. Nid ydym wedi deall na wnaeth y beirniaid yn iawn; ond dengys hyn y fath deimladau boneddigaidd a feddai y bardd. Gwna rhai bob ystryw i gael gwobrau, gan ddefnyddio rhyw offerynau i ddylanwadu ar y bodach a elwir beirniaid; ond nid un o'r teulu isel a dirmygus hwn oedd ein Daniel Ddu. Yr oedd cywirdeb, lledneisrwydd, a boneddigeiddrwydd yn llanw ei fynwes ef. Yr oedd y bardd tynergalon yn y rhan olaf o'i oes, yn dyoddef yn drwm oddi wrth bruddglwyf annyddan a phoenus, yr hyn a fu yn achos o'i farwolaeth; ac ys dywedodd Gunllo, —
"Ammhosibl ydyw mesur
Caledi, cyni, a'r cur
A rwygai'r natur egwan,
Lethai ei ddynoliaeth wan
I isel suddawl loesion,
Gythruddai, a friwiai'i fron :