gychwyniad lawer o foddhâd am ei gymhwysder. Cafodd ei urddo yn Llangeitho tua'r flwyddyn 1815. Heb law ei fod yn wr o ddeall cryf a dysg lle dda, yr oedd yn ddarllenwr dibaid a manol. Darllenai waith duwinyddion enwocaf yr oesoedd; a thrwy ei dalentau naturiol a'i ddyfalwch, yr oedd yn un o brif ddynion ei sir a'i wlad. Cylch ei lafur yn benaf oedd Lledrod, Llangwyryfon, Rhiwbwys, Llannon, Pennant, a Ffos y Ffin. Bu farw Awst, 1825. Mab iddo yw Mr. B. Evans, Llythyrdy, Aberaeron.
EVANS, DAVID, genedigol o Aberporth, a ymunodd â'r Bedyddwyr yng Nghilfowyr. Bu yn preswylio yn Nôl Goch, plwyf Troed yr Aur, a Newgate, plwyf Llangynllo. Cododd yn bregethwr poblogaidd yn y Graig, Castell Newydd Emlyn. Aeth ar daith i Ogledd Cymru, ac enillodd lawer iawn o sylw fel pregethwr. Parhaodd i ymweled â'r Gogledd am flynyddau, lle y cyfarfu â llawer iawn o wrthwynebiadau. Ymsefydlodd yn weinidog ym Maes y Berllan, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1787. Sefydlodd achosion yn Aberhonddu a Cheryg Cadarn. Meddiannai ddeall cryf, ysbryd gweithgar, a thymmer hynaws a hawddgar. Ar ol oes lafurus, bu farw Hydref 24, 1821, yn 87 oed.
EVANS, DAVID D., gweinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mhont Rhyd yr Yn, Gwent, oedd fab i'r D. E. blaenorol Ganed ef yn Nôl Goch, Troed yr Aur, tua dechreu y flwyddyn 1787. Dechreuodd bregethu Ion. 21, 1807. Cafodd ei urddo ym Maes y Berllan. Sefydlodd yng Nghaerfyrddin, Mawrth 24, 1812, lle y bu yn llwyddiannus, fel pregethwr ac ysgolfeistr, am bymtheg mlynedd. Symmudodd i Bont Rhyd yr Yn, a bu yno hyd y flwyddyn 1857. Gwanychodd ei iechyd yn fawr, a daeth i lawr i Gaerfyrddin, lle y bu farw, Awst 29, 1858, yn 71 oed. Claddwyd ef ym Mhont Rhyd yr Yn. Yr oedd Mr. Evans yn wr mawr ei barch fel Cristion, pregethwr, a gweinidog. Bu yn olygydd Seren Gomer am lawer o flynyddau, ac ysgrifenodd iddi lawer iawn o draethodau godidog. Ysgrifenodd hefyd dwysged i'r Greal a'r Bedyddiwr, Efe oedd awdwr "Adnoddau Cymru" yn yr Adolygydd, Ysgrifenodd hefyd "Hanes Bywyd y Parch. J. Williams," Trosnant.