y boneddwr yn synu am ei ddysg a'i wybodaeth ; ac felly treuliwyd yno brydnawn rhyfeddol o ddyddan ; a gwahoddodd y boneddwr Mr. Evans i ddyfod ato i ginio y dydd canlynol. Ar ol aros ychydig ddyddiau gyda Mr. Williams, ymadawodd gan draethu na wyddai yn y byd pa le i gael pryd o fwyd nesaf! Dyna y tro olaf i Mr. Willîams weled yr hen lenor; a bu y sefyllfa gyfyng ar y fath ddyn galluog lawer tro yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl.
Caniataodd Dr. Warren, tra yn esgob Ty Ddewi, ryw gymmaint o flwydd-dal iddo ; a bu Mr. Panton o'r Plas Gwyn, Mon, a Mr. Pennant, o'r Downing, yn ymdrechu casglu iddo flwydd-dal, yn yr hyn y buont yn llwyddiannus. Beth bynag, Mr. Panton, mewn ofn y gallasai ei lawysgrifau gwerthfawr fyned ar ddifancoll ar ei farwolaeth, a gytunodd ag ef i roddi ryw swm yn flynyddol tra y byddai byw, ar y teler iddo gael meddiant o honynt ar ol ei ddydd ; ac felly, aeth llawysgrifau y llenor mawr yn feddiant i deulu Panton, o'r Plas Gwyn. Cyhoeddodd, yn y flwyddyn 1764, gasgliad o farddoniaeth Gymreig, gyda chyfieithad llythyrenol, gan chwanegu atynt "Disaeriatio de Bardus" lle y mae yn dangos medr a gwybodaeth fawr o hen farddoniaeth Gymreig; ac nid yw ei arddull Lladin i'w dirmygu.
Yr oedd yn ysgolor Groeg rhagorol; ac yn ddiweddar yn ei fywyd, astudiodd yr Hebraeg, gyda llawer iawn o Iwyddiant. Cyhoeddodd hefyd farddoniaeth Seisonig, o'r enw The Love of Our Country ; a dwy gyfrol o 'Bregethau wedi eu cyfieithu yn benaf o waith Tillotson. Y mae yr hen ysgolor, yn ei ragymadrodd i'r pregethau, yn dangos profiad amlwg o wladgarwch diffuant. Yr oedd ei wlad, ei iaith, a'i gogoniant yn gyssegredig yn ei galon. Pan yn sylwi ar bethau ag oeddynt yn tueddu i sarhau ei wlad, yr oedd yn cael ei glwyfo yn y fan, ac yn tueddu i ymollwng i chwerwder. Y mae llawer o'i weithiau barddonol wedi cael eu cyhoeddi yn y Dyddanwch Teuluaidd a Blodau Dyfed. Bu farw yn nhy ei frawd, yn Awst, 1789, yn 58 mlwydd oed. Yr oedd, o ran ei gorffolaeth, yn dal a chadarn, â gwallt a barf ddu. Yr oedd yn meddu teimladau tyner a dyngarol iawn; nis gallai edrych na meddwl am unrhyw galedi heb deimlo yn ddwys, ac hyd yn oed