Yr oedd yn gadben ym myddin y brenin; ac o herwydd hyny, gelwid ef yn Captain Tory. Ar ol marwolaeth y brenin, cafodd ei osod yng ngharchar Aberteifi; ac yn fuan ar ol hyny, ganed iddo fab, yr hwn a alwodd yn Charles, o barch i'w frenin anffodus; a'r Charles hwn oedd tad yr enwog Theophilus Evans. Hanai hen deulu Penwenallt o Wynfardd Dyfed.
EVANS, GRIFFITH THOMAS, a aned ym Mhontbrendu, plwyf Llanarth, Awst 15, 1825. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, a chafodd ei dderbyn pan yn dra ieuanc yn aelod yn y Neuaddlwyd. Dechreuodd bregethu pan yn ugain oed. Bu yn yr ysgol yn Aberteifi; wedi hyny yn Ffrwd y Fâl; ac yn olaf yn Aberhonddu. Bu yno am bedair blynedd, gan ennill iddo ei hun lawer o barch. Yr oedd ei iechyd yn wan y pryd hwnw. Cafodd ei urddo ym Mhen y Graig, ger Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1851. Llafuriodd yno tua phum mis; ond gorfu arno roddi ei weinidogaeth i fyny, a dychwelyd at ei rieni. Bu farw Mehefin 29, 1852. Ystyrid ef yn ddyn ieuanc talentog iawn, o feddwl athronyddol a dwfn. Yr oedd yn ochelgar iawn rhag cyfarfod â thwyllwr yng ngwisg cyfaill. Fel pregethwr, ystyrid ef yn gall, hyfforddiadol, ac adeiladol. Yr oedd yn amlwg iawn mewn duwioldeb; ac yn cael ei barchu gan bawb, yn neillduol gan y sawl a'i hadwaenai oreu.
EVANS, ISAAC, a aned yng Nghaerdroia, plwyf Cilcenin, yn y flwyddyn 1805. Derbyniwyd ef yn aelod yng Nghapel Cilcenin, gan y Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Bu yn yr ysgol yn Neuaddlwyd, ac wedi hyny yn Athrofa Tref Newydd. urddwyd ef yn Weedon, swydd Northampton, yn y flwyddyn 1831. Bu yno yn ddiwyd iawn. Yr oedd yn arfer ysgrifenu llawer i'r wasg Gymreig. Y mae llawer o'i ohebiaethau i'w gweled yn y Tytwysydd, Diwygiwr, a chyhoeddiadau ereill. Bu farw Mehefin 27, 1865.
EVANS, JOHN, A.C., a aned ym Meini Gwynion, plwyf Llanbadarn Odwyn. Cafodd addysg brifathrofaol, a'i raddio yn A.C. yn Rhydychain. Bu yn gwasanaethu Llanarth fel curad, ac a symmudodd i Portsmouth. Cyhoeddodd Cyssondeb y Pedair Efengyl yn 1765, sef yr