EVANS, JOHN, oedd ysgolfeistr dysgedig ym mhlwyf Llanwenog. Yr oedd hefyd yn fardd medrus. Bu Dafydd Llwyd, Brynllefrith, a llawer o ddynion enwog ereill, yn ei ysgol. Dywed Llwyd ei fod yn ysgolor godidog pan yr yfai ddwfr; ond ei fod yn hoff o gwrw. Dywed Tomos Gwenog yn Seren Gomer, 1827, ei fod yn prydyddu yn swn yr afon Gwenog.
EVANS, MORGAN (Cynllo Maelienydd), oedd enedigol o blwyf Llanrhystud. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a'i urddo, meddir, ar guradiaeth yn agos i'w le genedigol. Cafodd fywoliaeth Llangynllo, Maesyfed, ac wedi hynny Llanddewi y Cwm, a Llanfair ym Muallt. Ysgrifenodd lawer iawn i Seren Gomer, Gwyliedydd, a Lleuad yr Oes. Prydyddiaeth yn bennaf a ysgrifennai, megys cyfieithadau newydd o salmau, emynau, &c. Cyhoeddodd ryw lyfrynnau prydyddol. Mae Mr. Davies, Rhydlas, Llanrhystud, yn nai fab chwaer iddo Bu farw tua'r flwyddyn 1845. Mae o'n blaen rai llyfrau a fu yn eiddo iddo, megys y Gwyliedydd &c. Dywedir am dano ei fod yn ŵr dyddan iawn yn ei gymdeithas.
EVANS, MORICCE, diweddar beriglor Llangeler, a aned ym Mhengelli, plwyf Llangwyryfon. Dygwyd ef i fyny yn Ysgol Ystrad Meirig. Cafodd ei urddo yn Abergwili, ond ni chawsom wybod pa bryd nac ar ba le, er holi llawer. Bu yn gweinidogaethu am rai blynyddau yn Lloegr. Bu yn beriglor Penbryn a Llangeler am flynyddau lawer. Bu farw Tach. 24, 1831, yn 66 oed. Yr oedd yn ŵr gweithgar iawn; ac efe a ddechreuodd adferu Llangeler i'w sefyllfa eglwysig bresennol
EVANS, OWEN, diweddar weinidog yr undodiaid yng Nghefn Coed y Cymmer, a aned yn y Perlyp, plwyf Llandyssul. Derbyniodd ei addysg foreuol yng Nghastell Hywel, dan ofal yr enwog Mr. Davis, ac wedi hynny yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin. Ystyrid Mr. Evans yn ysgolor clasurol rhagorol, a bu yn cadw ysgol trwy ei oes gyda llawer iawn o glod. Yr oedd ei barch yn uchel iawn am ei natur dda, ei foneddigeiddrwydd, a'i garedigrwydd ym mhob modd. Pan welai ddyn ieuanc talentog am ymgodi i fyny i'r weinidogaeth, neu unrhyw gylch