Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

defnyddiol arall, ac yn brin o foddion i allu cyrhaedd dysg, efe a'i cymerai i'r ysgol am ddim, heb ofalu dim am ei gredo grefyddol. Yr oedd fel hyn yn ymbleseru mewn gwneuthur daioni. Yr oedd yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwyr, ac enillodd lawer o enw da yn y cylch hwnnw. Fel pregethwr, ystyrid ef yn un tra meistrolgar ac adeiladol. Bu am ychydig amser yn cynorthwyo y Parch. Timothy Davis, Evesham, ac wedi hynny ym Mlaengwrach, Morganwg; ond treuliodd tuag 28 mlynedd yng Nghefn Coed y Cymmer. Ysgrifenodd lawer iawn i'r wasg Gymreig, yn bennaf i'r Ymofynydd, Bu ar faes y cylchgrawn hwnnw mewn dadl dyn iawn â'r Parch. R. Gwesyn Jones. Pregethodd y Sul olaf o'i fywyd, a bu farw drannoeth yn dra disymwth, sef y 9fed o lon., 1865, yn 57 oed.

EVANS, THEOPHILUS, oedd bummed mab Charles Evans, Ysw., Penwenallt, plwyf Llandygwydd. Ganed ef yn y flwyddyn 1694, ac a ddygwyd i fyny mewn ysgolion da yng Nghymru, ac wedi hynny, y mae yn debyg, yn Rhydychain, ac a urddwyd yn ddiacon yn y flwyddyn 1718, ac yn offeiriad yn 1719. Ei guradiaeth gyntaf oedd Tir yr Abad, Brycheiniog efe a symudodd wedi hynny i Lanlleonfel. Yn y flwyddyn 1728, rhoddodd Esgob Ty Ddewi iddo fywoliaeth fechan Llanynys, yr hon a ddaliodd am ddeng mlynedd, ac a'i rhoddodd i fyny pan gafodd Langammarch. Yn 1739, efe a gafodd fywoliaeth Llanddewi, yn Llanfaes, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Yn 1763, rhoddodd fywoliaeth Llangammarch i fyny i'w fab yng nghyfraith, Hugh Jones, yr hwn wedi hynny a newidiodd am Lywel. Y gwaith cyntaf a gyhoeddodd Theophilus Evans oedd Drych y Prif Oesoedd, yn 1715; a daeth allan ail argraffiad o honno yn 1740, gydag ychwanegiadau. Y mae Drych y Prif Oesoedd yn eithaf adnabyddus heddyw. Er nad yw ond byr, eto y mae yn cynnwys llawer o bethau hynotaf ein hanes cenedlaethol; ac y mae yn ddrych ardderchog o ffraethineb athrylithgar yr awdwr fel ysgrifennwr Cymreig. Y mae darllen y llyfr hwn yn fynych yn gystal a chael gwersi gan athraw medrus yn yr iaith. Y mae argraffiadau lawer wedi dyfod allan,