Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y mae'r un prydferth a ddaeth allan gan Mr. Spurrell, Caerfyrddin, "gyda rhaglith gan yr Archiagon Williams, a gair am yr awdwr a'i waith, gan y Parch. W. Edmunds," yn rhagori arnynt oll. Yn 1739, cyhoeddodd Pwyll i Bader sef esboniad o Weddi'r Arglwydd, mewn amryw bregethau. Yn 1852, cyhoeddodd yn Seisoneg, History of Modem Enthusiasm, yr hwn a ail gyhoeddwyd yn 1756. Prydferthwch Sancteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin, sef cyfieithad o eiddo y Dr. Bisse: Mwythig, 1722. Llythyr Addysg Esgob Llundain at Bobl ei Esgobaeth: Caerloew, 1740. Argraffwyd hwn gan Raikes, sylfaenydd yr Ysgol Sul.(1) Gwth i Iuddew, sef Pregeth : Mwythig, 1760. Priododd ag Alice, ferch Morgan Beyan, Gelligaled, Morganwg, a bu iddynt dri mab a dwy ferch. Priododd un o'i ferched â'r Parch. Hugh Jones, periglor Llywel, a'u mab hwy oedd Theophilus Jones, awdwr History of Breconshire. Bu farw Theophilus Evans yn y flwyddyn 1769.

Gwasanaethodd Theophilus Evans ei genhedlaeth gyda ffyddlondeb mawr. Dywedir ei fod yn bregethwr call, yn llawn arabedd gwreiddiol, heb fod yn ymylu dim ar ysgafnder. Ymwelai â'i blwyfolion, gan eu dysgu ym mhob rhinwedd gwladol, llenyddol, ac eglwysig. Rhoddodd gyfargraff o Ddrych y Prif Oesoedd i bob teulu yn ei blwyf oedd yn analluog i'w brynu ; a dywedir iddo wneyd yr un modd ag amryw lyfrau ereill o'i eiddo. Yr oedd yn wresog fel eglwyswr, ac yn llawn gwladgarwch Cymreig a Phrydeinig. Yr oedd hefyd yn fardd. Y mae englynion o'i eiddo i annerch Meddyliau Neillduol ar Grefydd, o gyfieithad Iago ab Dewi. Ymddangosodd cyd-ser llachar o lenorion yn ardal enedigol Mr Evans yn yr oes hòno. Magwyd Siencyn Tomos, Cwmdu, yn Felin Dre Wen, ar dir Penwenallt. Tua dwy filltir yn nes i fyny, y preswyliai y Parch Samuel Williams, Llandyfrïog, a Moses Williams ei fab. Tua phum milltir o Benwenallt, preswyliai y bardd Ieuan Gruffydd, o'r Tŵr Gwyn ; a thua'r un faint y preswyliai y bardd a'r llenor dysgedig, y Parch.