Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1866, yn 20 mlwydd oed. Cyhoeddwyd cyfrol dlos o'i weithiau, dan olygiaeth Dafydd Morganwg, a Hywel Williams, Pant y Gerddinen.

EVANS, TIMOTHY, diweddar beriglor Llanbadarn Tref Eglwys a Chilcenin, a aned yn y Cnwcyn Duoer, plwyf Llanbadarn Tref Eglwys. Bu yn beriglor y plwyfi uchod am 48 o flynyddau. Bu farw Tach. 30, 1837. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf doniol ei ddydd. Cyrchai pawb o'r plwyfi cymmydogaethol i'r Eglwys lle y clywent fod Mr. Evans yn pregethu. Yr oedd mor ddengar ei ymadrodd, mor enuillgar yn ei darawiad, mor beraidd, mor dreiddgar, ac mor soniarus yn ei lais, nes oedd ar unwaith yn swyno serchiadau y dorf luosog; ac yna byddai y gynnulleidfa fawr yn ei law ar unwaith; ac ni fyddent byth yn blino wrth ei athrawiaeth wrth dreulio yn fynych awr a hanner ar ei bregeth. Yr oedd ganddo ryw ffordd rhyfeddol o effeithiol i fyned i galonau y gwrandawyr, fel yr oedd bob amser yn un o'r offeiriaid mwyaf poblogaidd y cyfarfodydd misol a gynnelid yn yr amser hwnw trwy'r sir. Ei brif bynciau oedd "Prynedigaeth y byd," "Dyoddefiadau Crist," "Anfeidrol ddigonolrwydd iawn y Cyfryngwr," a "Rhinwedd y Gwaed er cyfiawnhad pechadur." Yr oedd ei ysbryd gwlithog, ei iaith briodol a barddonol, a'i fywyd bucheddol fel gweinidog, yn ei osod ym mlaenaf ym mhlith offeiriaid efangylaidd ei oes. Gadawodd ar ei ol Eglwysi blodeuog. Perthynas iddo yw y Parch. E. Evans, person Llangeitho.

EVANS, TIMOTHY, diweddar gurad Llanddewi Brefi, oedd enedigol o blwyf Cilcenin. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus, yn berchen tir eu hunain. Aeth Mr. Evans i athrofa Neuaddlwyd, ac wedi hyny i athrofa Caerfyrddin. Cafodd ei urddo yn weinidog Annibynol yn Aberhonddu, lle y bu am flynyddau lawer. Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig tua'r flwyddyn 1838. Gwasanaethodd Llanddewi Brefi am flynyddau. Ystyrid ef yn bregethwr tra rhagorol, ac yn wr hawddgar mwy na'r cyffredin. Bu farw Chwefror 21, 1851.

EVANS, TITUS, gweinidog gyda'r Undodiaid yn yr Onen Fawr, ger Llandeilo, ac athraw ysgol ym Mharc y