GRIFFITHS, JAMES R, diweddar beriglor Llangeler, a aned yn Llwynbedw, plwyf Brongwyn, yn y fl. 1802. Treuliodd ei febyd yn Eglwyserw. Addysgwyd ef yn yr ardal hòno, ac wedi hyny yng Ngholeg Dewi Sant. Cafodd ei urddo ar Morfil, sir Benfro; a bu wedi hyny yn Llandeilo Fawr. Cafodd fywoliaeth Cwmamman. Ar benodiad y Parch. J. Griffiths, periglor presennol Llandeilo, i'r fywoliaeth hòno, cafodd yntau ei benodi yn ficer Llangeler. Gweithiodd yno gyda llawer iawn o ffyddlondeb. Adeiladodd yno Eglwys newydd, ac hefyd ysgoldy. Yr oedd yn hollol ymgyflwynedig i'r weinidogaeth. Yr oedd hefyd yn wr pwyllog iawn. Clywsom ef yn dywedyd mai darllen hanes y Parch. John Newton a'i tueddodd ef gyntaf i feddwl am y weinidogaeth. Treuliasom lawer awr yn ei gymdeithas, a chawsom ef yn garedig iawn. Yr oedd yn hollol ddidramgwydd, ac yn llawn cydymdeimlad. Yr oedd Mrs. Griffiths, yr hon sydd gyfnither i'r diweddar Garn Ingli, yn gydwedd gymhwys iddo. Ymdrechodd adeiladu capel arall mewn rhan o'r plwyf ag oedd ei fawr eisieu; ond cyfarfu â rhwystrau. Bu farw y gwr rhagorol hwn Mawrth 28, 1863. Brawd iddo yw y Parch. G. Griffiths, Machynlleth. Yr oedd yn berthynas i Reithor enwog Castell Nedd.
GRUFFYDD, Abad Ystrad Fflur. Cymmerodd yr abad hwn ran led bwysig yn helyntion gwladol y Dywysogaeth. Gwnaeth heddwch â Brenin Lloegr yn y flwyddyn 1247, gyda golwg ar y ddyled oedd ar y fynachlog, pryd y maddeuwyd iddi 350 o farciau.
GRUFFYDD AB LLYWELYN, o Uwch Aeron, oedd bendefig enwog yn y cynoesoedd. Mae gan Ddafydd y Coed awdl iddo yn yr Archaiology of Wales, Rhydd y bardd hwnw iddo glod uchel iawn fel croesäwr beirdd, ac nad oedd yn Seisonig, ac mai efe oedd agwrdd Ceredigion.
GRUFFYDD AB MEREDYDD ydoedd ŵyr i'r Tywysog Rhys ab Gruffydd. Yr oedd yn Archddiacon Ceredigion, ac yn wr o ddysg helaeth a chymmeriad uchel. Bu farw tua'r flwyddyn 1241.
GRUFFYDD AB MEREDYDD ydoedd frawd Cynan ab Meredydd, am yr hwn yr ydym wedi traethu yn barod.