CEITHO, oedd sant yn blodeuo yn y chweched ganrif. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llangeitho, a choffeid ef Awst 5ed. Mab ydoedd i Cynyr Farfdrwch ab Gwron ab Cunedda, yr hwn oedd yn byw yn Cynwil Gaio, sir Gaerfyrddin; a dywedir iddo ef a'i frodyr, Gwyn, Gwynno, Gwynoro, a Celynin, gael eu geni ar unwaith, ac iddynt oll fyw bywyd crefyddol.
CENEANC, CENANC, neu CINOTHEUS, a ddilynodd Dewi Sant fel esgob cyntaf Llanbadarn Fawr.
CERI, Sion, neu Sion ab Bedo ab Dafydd ab Hywel ab Tudyr, bardd
enwog, yn blodeuo rhwng 1500 a 1530. Mae ei ganiadau ar gael mewn
llawysgrifau.
CURIG LLWYD, neu y Bendigedig, oedd sant yn byw yn y seithfed
ganrif, ac yr oedd yn hynod am ei ddysgeidiaeth a'i fywyd santaidd.
Daeth i Gymru i ymsefydlu, ac ar ol glanio o hono yn Aberystwyth,
teithiodd yn mlaen i ganol y wlad, ac eisteddodd o'r diwedd ar gopa
mynydd uchel, yr hwn a alwyd wedi hyny oddiwrtho ef yn Curig, neu
Eisteddfa Curig. Wrth edrych i lawr o ben yr ucheldir hwn, canfyddai
ddyffryn prydferth o'i flaen, yn yr hwn y penderfynodd adeiladu eglwys,
yr hon a alwyd oddiwrtho ef, Llangurig. Ennillodd barch mawr o
herwydd ei dduwioldeb; ac oddiwrth gân o eiddo Lewys Glyn Cothi,
(gwel tudal. 280 o'i waith), ymddengys ei bod yn arferiad yn ei amser ef
gan y mynachod i fyned oddiamgylch i werthu delwau o hono ef, fel
cyfareddau i'r bobl gyffredin, gan dderbyn yn eu lle gaws, cig, gwlan,
ŷd, &c.
"Un a arwain yn oriog
Gurig Llwyd dan gwr ei glog;
Gwas arall a ddwg Seiriol,
A naw o gaws yn ei gol."
Priodolid hefyd rinweddau iachaol i'w ffon, yr hon oedd, medd Giraldus, i'w gweled yn eglwys St. Harmon yn ei amser ef. Yr oedd hefyd yn esgob ar esgobaeth yn Nghymru, yr hon fel y tybir oedd Llanbadarn Fawr.
CYNFELYN, sant a flodeuai yn y chweched ganrif, a mab Bleiddyd ab
Meirion ab Tybiawn ab Cunedda. Efe a sylfaenodd eglwys Llancynfelyn,
Ceredigion, ac un arall yn y Trallwng.
CYNGAR, mab Arthog ab Caredig, a brawd Cyndeyrn, oedd sant yn
blodeuo yn y chweched ganrif. Mae dau neu dri o seintiau eraill yn
dwyn yr enw hwn.- Rees' Welsh Saints.