Tudalen:Enwogion Sir Aberteifi- Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ... (IA enwogionsiraber00jonegoog).pdf/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYNHUDYN, sant a flodeuodd yn y chweched ganrif. Yr oedd yn fab i Bleiddyd ab Meirion ab Tybiawn ab Cunedda, ac yn ddeon Coleg Padarn yn Llanbadarn Fawr. Credir oddiwrth yr argraff Canotinu, sydd ar gareg yn mynwent Llanwnws, yn sir Aberteifi, ei fod wedi ei gladdu yno. -Myf. Arch. ii., 35.

CYNLLO, oedd sant yn blodeuo yn y bummed ganrif, a mab i Mor ab Conen ab Coel Codebawg. Yn yr hen argraffiadau o'r Ffurfweddïau Cymreig, gwelir ei enw yn y blwyddiadur am Gorphenaf 17, lle y gelwir ef Cynllo Frenin, oddiwrth yr hyn y casglwn iddo fod unwaith yn Feddiannol ar ei hen diriogaethau, ac iddo wedi hyny gyflwyno ei hunan i achos crefydd. Yn nyhuddiant Elphin, cerdd a briodolir i Taliesin, dywedir am dano, "Ni bydd coeg gweddi Cynllo," yr hyn a brawf yr ystyrid ei eiriolaeth ef yn effeithiol. Efe oedd sylfaenydd eglwysi Nantmel, Llangynllo, a Llanbister yn sir Faesyfed, a Llangynllo a Llangoedmor yn sir Aberteifi. Gwelwn oddiwrth y nodau i ganiadau Lewys Glyn Cothi, fod y coffadwriaethau canlynol o hono yn cael eu cadw yn y lle diweddaf:- 1. Cerwynau Cynllo, sef, ceuleoedd wedi treulio yn ngwely creigiog yr afon, trwy dreuliad parhaus y dwfr. 2. Ol traed march Cynllo wedi eu gadael yn y graig. 3. Ol gliniau Cynllo pan yn gweddïo.


DAFYDD AB GERALD, neu Fitzgerald, archddiacon Aberteifi. Cysegrwyd ef yn Esgob Ty Ddewi yn 1147, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth yn 1176


DAFYDD AB GWILYM, yr Ovid Cymreig, a anwyd yn Mro Gynin, plwyf Llanbadarn Fawr, Ceredigion, tua'r flwyddyn 1340. Hanai o deulu hynafol ac urddasol. Ei ewythr, Llywelyn ab Gwilym, ydoedd Arglwydd Ceredigion y pryd hyny, a phreswyliai yn y Ddolgoch, ar lan Ceri, o fewn tair milldir i Emlyn. Yr oedd hwnw yn fardd medrus, yn wladgarwr gwresog, ac yn noddwr mawr i'r eisteddfod. Gydag ef y treuliodd Dafydd ei ddyddiau boreuol, ac ni fu ei ewythr yn hir heb ganfod ei fod yn feddiannol ar alluoedd meddyliol tuhwnt i'r cyffredin, a dawn prydyddol cryf. Ond pan tua phymtheg oed, dychwelodd at ei rieni i Bro Gynin. Tra yno ymddangosai rhyw duedd barhaus ynddo i wneuthur pobpeth o'i amgylch yn destunau gwawd a chwerthin. Mae rhai o'i duchangerddi a gyfansoddodd y pryd hyn ar gael etto; ac maent yn bobpeth ond yr hyn a ddysgwylid eu gweled oddiwrth fab at ei rieni. Wedi byw ychydig fel hyn yn dra anghydfodus gartref, symudodd i Lys Ifor Hael, yn Masaleg, sir Fynwy, oblegid yr oedd y tywysog enwog hwnw yn berthynas agos iddo o ochr ei dad. Penodwyd ef ganddo yn arolygwr ar ei dŷ, ac yn athraw i'w ferch. Y canlyniad o'r berthynas olaf yma y safai ynddi, fu