ENWOGION SIR ABERTEIFI.
————————————
AFAN, sant a flodeuai tua dechreu y chweched ganrif. Mab ydoedd i Cedig ab Caredig ab Cunedda, o Tegwedd, ferch Tegid Foel o Benllyn. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llanafan Trawsgoed, yn y sir hon, yn gystal a Llanafan Fawr a Llanfechan, yn Muallt. Claddwyd ef yn Llanafan Fawr, lle mae ei feddfaen etto i'w gweled. Tybir mai efe oedd trydydd Esgob Llanbadarn Fawr. Ei ddydd gwyl yw Tachwedd 16eg.
ARTHEN, fab Sisyllt ab Clydawg, oedd frenin neu arglwydd Ceredigion. Bu farw yn y flwyddyn 804. Tebygol fod Rhiwarthen a Glynarthen, yn y sir hon, yn derbyn eu henwau oddiwrtho ef.
BEVAN, THOMAS, oedd un o'r cenadon Protestanaidd cyntaf i ynys
Madagascar. Yr oedd yn enedigol o ardal Neuaddlwyd, ac yn aelod o'r
Eglwys Annibynol yno, ac yn un o ysgolheigion yr hyglod Dr. Phillips.
Ordeiniwyd ef a'i gydlafurwr, Dafydd Jones, yno, yn genadon i Mada-
gascar, Awst, 1817. Gadawsant Brydain ddiwedd y flwyddyn hdno, a
chyrhaeddasant Mauritius yn mis Ebrill y flwyddyn ganlynol. Tiriasant
yn Madagascar yn Awst, a chawsant dderbyniad croesawgar gan Fisatra,
brenin Tamatave. Daeth mab y brenin yn un o'r deg neu ddeuddeg o
ysgolheigion oedd ganddynt yn yr ysgol a sefydlasant yno. Wedi gwel-
ed argoelion y llwyddasai y gwaith da, aeth y cenadon drosodd i
Mauritius i ymofyn eu gwragedd a'u plant, oblegid ynó y gadawsent hwy.
Mr. Jones a ddychwelodd yn ol gyntaf, ac yn fuan derbyniodd y newydd
prudd, gan un o'r masnachwyr, fod gwraig a phlentyn ei gyfaill Mr. Bevan
wedi eu claddu, a'i fod yntau ei hun yn annhebyg iawn i fyw. Effeithiodd
y newydd hwn yn ddwys arno, fel y wylodd yn hidl; ac heb golli amser
aeth trwodd i'w weled, a chan gydio yn ei law, dywedai, “Y mae fy
ngwaith ar ben; ond chwi a fyddwch byw, ac a lwyddwch: ymwrolwch,
a chymerwch galon." I'r hyn yr atebai Mr. Jones, "Tewch; myfi sydd
glaf, a chwithau sydd iach." "Chwi a gewch weled," ebai Mr. Bevan,
“mai gwir a ddywedais; ac fe ddaw un arall i lanw fy lle.” Gwiriwyd
ei eiriau, oblegid bu farw yn mhen tridiau; a bu ei wraig a'i blentyn
farw yn fuan ar ei ol.
BOLD, WILLIAM, Ysw., ydoedd o Dre'r Ddol. Llanwodd y swydd o
Sirydd Mon yn y blynyddau 1644, 1649, a 1655. Yn amser y rhyfel