Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/102

Gwirwyd y dudalen hon

ei hegni? Ni raid iddi wneud hynny. Bydded ei holl egni ar wneud daioni, a sieryd ei bywyd drosto ei hun. Tra yr wyf yn ysgrifennu y mae dau Gymro mawr newydd huno, a'r bedd eto heb gau arnynt. Yn eu bywyd buont wylaidd a diymhongar, gadawent i'w clod fynd i eraill; ond daw amser y dadorchuddir eu mawredd ac y gwelir gogoniant eu gwaith. Pan roddid y clod i eraill am ddarganfod pellebriad diwifrau, yr oedd Syr William Preece yn hen ŵr yn Arfon yn llawenhau wrth weled perffeithiad ei waith ef, fel y collodd tymhestloedd y môr lawer o'u dychryn. Pan ddarganfyddodd y gŵr o sir Fynwy, Alfred Russell Wallace, ddeddf datblygiad, helpodd eraill i brofi mai Darwin a'i darganfyddodd gyntaf. Ond myn hanes roi y ddau gawr hyn yn eu lle. Yr hyn wnaeth y rhain, gwnaed eu cenedl. A phan ddifenwer hi, bydded ei hateb yn ddistawrwydd urddasol. Y mae iddi esiampl, "Eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn."