Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/118

Gwirwyd y dudalen hon

ddwys yr ymdaflodd Milton; dirywiodd ei L'Allegro ysgafn-galon i Gomus foethus ac i Satan ddrwg, datblygodd ei Il Penseroso i'w arwr Adda ac i'w Waredwr. Yr un agwedd enillodd serch Daniel Owen. Darluniodd grefydd ei fam fel cryfder bywyd Cymru; ac nid oherwydd eu bod yn gyferbyniad hapus iddi ac yn gywiriad caredig ohoni y darlunnir meddylgarwch Bob a direidi Wil Bryan. Yr oedd meddylgarwch y naill yn werthfawr, a direidi naturiol y llall yn hawddgar, oherwydd fod i'r ddau radd o grefydd Mari Lewis yn sylfaen. Os felly, a oedd Daniel Owen yn iawn? A oedd bywyd caled y dyddiau hynny yn rhoi cystal cyfleusterau a bywyd mwy dibryder y dyddiau hyn? A oedd llenyddiaeth ddiwinyddol yr oes honno yn gystal disgyblaeth meddwl a llenyddiaeth ysgafnach ac eangach yr oes hon? Beth yw dyletswydd y diwygiwr, ai galw ar blant ei genhedlaeth i ddawnsio ychwaneg ac i ddarllen llyfrau ysgafnach, ynte galw arnynt i ymegnio mwy, gorff a meddwl? Pwy sydd mewn mwyaf o berigl o gael ei golli o fywyd Cymru, Mari Lewis ynte Wil Bryan? Y mae'n amlwg nad hygar i Ddaniel Owen fuasai Cymru wedi colli crefydd ei fam. Paham y bu Bob farw mor gynnar, a phaham y diflannodd o nofelau Daniel Owen?

Efe yw ysbryd y dyfodol, efe sy'n rhoi llais i feddwl a bywyd goreu Cymru. Efe ddylasai fod yr arwr. Pe wedi ei ddarlunio'n llawn, buasai'n ddarlun o arweinydd a gwaredwr gwerin Cymru. Mor werthfawr fuasai, hyd yn oed fel darlun yn unig, i lowr Cymreig Deheudir Cymru heddyw, fel cynllun o arweinydd anhunanol a diogel. Am ddarlun