Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/133

Gwirwyd y dudalen hon

yn bymtheg a thrigain. Yn 76 bu farw W. O. Pughe, Dafydd Ionawr, Hugh Jones Maesglasau, John Gibson, Henry Richard, Nicholas Bennett, Michael D. Jones, Arlunydd Pen y Garn, a Daniel Davies Ton. Yn 77 bu farw Daniel Rowland Llangeitho a Syr Huw Owen; yn 78, Gruffydd Jones Llanddowror, Dr. Lewis Edwards Caerfallwch Dr. W. Roberts Utica, a Lleurwg; yn 79, Ellis Owen o Gefn y Meysydd, John Hughes Pont Robert, Jane Williams Ysgafell, Ieuan o Leyn, Dewi Ogwen, Owen Thomas, Matthews Ewenni, a Glaslyn. Cyrhaeddodd Iolo Morgannwg, Simon Lloyd y Bala, Morris Davies Bangor, J. R., a Lord Aberdare, eu pedwar ugain oed.

Pedwar ugain oed! "Ac os o GRYFDER y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd." Ie, os o gryfder. Wel, hai ati am fyw deng mlynedd arall, beth bynnag. Y mae dynion da yn marw yn rhy gynnar o lawer. Rhy ychydig o hen bobl sydd gennym. Y mae rif y rhai dros ddeg a thrigain ym Mhrydain Fawr a'r Iwerddon,—rhyw filiwn a hanner, yn llawer rhy fach. Ac nid yw'r rhai sy'n cael blwydd—dâl yn llawn miliwn. Pe cai dynion fod heb foethau yn eu hieuenctid, a chael mesur cymhedrol o fwyd iach; pe caent ddydd gwaith yn yr awyr agored, neu gyda'u ffenestri yn agored, a newid eu dillad yn lle eu dioddef yn wlybion, herddid ein daear gan dyrfaoedd o hen bobl dros eu pedwar ugain, yn sionc a hapus a doeth. Pe talem y sylw priodol i ddeddfau iechyd, a phe dysgid ni yn yr ysgolion mor werthfawr yw bywyd, eithriad fyddai i neb farw dan bedwar ugain oed, a chyflawnid y broffwydoliaeth,— "Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd