Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/19

Gwirwyd y dudalen hon

y gwan, y gwrendy toraeth ein pobl ieuanc y dydd hwn. Os nad yw llenyddiaeth enaid Cymru i gydio yn ein plant, gwell iddynt fod yn anllythrennog, fel na chollant y chwaeth a'r dyhead a gadwodd y Mabinogion trwy genedlaethau di-ddysg a di-lyfr. Fy nghenedl, beth yw sefyllfa'r Gymraeg yn dy ysgolion?

Y mae i enaid Cymru ysbryd cerddoriaeth gyfrin, sydd eto heb gael llais, er y clywir sibrwd ei edyn mewn ambell hen alaw neu yn hwyl ambell gymanfa. Cofiaf am adeg na ddysgid alaw Gymreig yn yr un ysgol yng Nghymru. Pryd hynny, gwynfyd y cerddor fuasai newid enaid Cymro am enaid Sais, a iaith y Cymro am iaith yr Eidalwr, ac yntau heb adnabod y naill na medru y llall. Sais ddaeth ag alawon Cymreig i ysgolion Gogledd Cymru; Saeson sy'n galw heddyw am i'n cerddorion dynnu eu hysbrydoliaeth o'r bywyd cyfoethog Cymreig, yn lle edmygu'r dieithr na fedrant ond ei ddynwared. Ni anwyd cenedl ag enaid mor llawn o gerddoriaeth ag enaid cenedl y Cymry. Ewch i ysgolion y genedl, i wrando lleisiau'r plant ar fore. Pa mor aml y clywch emyn neu alaw Gymreig yno?

Y mae enaid Cymru'n ddwys grefyddol, a'i lygaid ar y tragwyddol. Oherwydd hynny, oni ddylai y weledigaeth fod yn glir? Oni ddylai'r gwyddonwr Cymreig fod yn ddarganfyddwr? Ond wedi colli ei enaid, cyll meddwl y Cymro ei nerth. Boed i Gymru bob llwyddiant. Daw cydraddoldeb a rhyddid, Prifysgol ac Ysbyty, a sylweddolir llawer breuddwyd. Ond na chollwn ein golwg ar enaid y genedl, rhag iddo, ynghanol adeiladau gwych a phwyllgorau brwdfrydig, ddiflannu o'r