Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/59

Gwirwyd y dudalen hon

y gymanfa'n gynhulliad teneu, heb y plant. Crina'r Eisteddfod i henaint a bedd, heb y plant. Dylai pob sefydliad cenedlaethol Cymreig gydio yn y plant os am fyw.

Gwelodd Rhys J. Huws fod y pethau hoffai ef yn dod yn eiddo i'r hen yn unig,—ysbrydol llenyddol dwys a hoffus. Tra'r ymhyfrydai hen feirdd wrth ganu am ogoniant a fu, yr oedd y plant a'u pennau yn y gwynt, yn byw ar lenyddiaeth salw, a chof am feirdd goreu Cymru'n cilio o gof. Bu amser nad oedd sôn am Geiriog na Hiraethog nag Islwyn ymysg plant Cymru. O deimlo hyn trodd meddwl Rhys J. Huws at Eisteddfod y Plant. Yn araf, ond yn sicr, ceir gweled y bydd Eisteddfod Plant Bethel, ac Eisteddfod Plant Bethesda, yn gychwyniad newydd i fywyd ein cenedl ni.

Gwyn fyd na chawsai Rhys J. Huws fyw ychydig yn hwy i weled ei waith yn dechre dod i'r golwg yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd. Y mae'n debig na fedr neb oedd yn y babell fawr orlawn ar ddydd y plant anghofio'r olygfa tra byddant byw. Canai'r corau plant o ysgolion ardaloedd poblog y De nes swyno'r gynulleidfa enfawr i ddistawrwydd amyneddgar a boddhaus trwy gydol yr hirddydd. Canai'r plant alawon gwerin Cymru yn Gymraeg. Os oedd yr effaith ar y dorf yn drydanol, bydd yr effaith ar yr ysgolion yn arhosol.

Daw canu alawon gwerin yn Gymraeg i'r ysgolion eraill. Daw canu Cymraeg a siarad Cymraeg eto i heolydd oedd wedi colli yr hen seiniau hudolus. A deffry pobl mewn oed sy'n gweddio'n gysglyd am i'r hen iaith barhau tra