Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/61

Gwirwyd y dudalen hon

BEDD GŴR DUW

AR un o ddyddiau heulog diwedd haf, cefais fy hun yn dringo ffordd weddol serth o Benrhyn Deudraeth i gyfeiriad Eryri. Wedi cyrraedd pen y bryn cyfarfyddais â dau arlunydd, y naill yn prysur godi i enwogrwydd fel un o brif arlunwyr y dydd a'r llall yn ŵr enwog ar y Cyfandir. Cymro oedd y naill, Norwegiad y llall. Wrth syllu ein tri ar y goleuni tyner glas ar lawer mynydd cribog ac ar fwynder hyfryd cymoedd aml, dywedai'r tramorwr, er ei fod wedi gweled mynyddoedd pob gwlad, o'i wlad ei hun i Zealand Newydd, na wyddai am le oedd gymaint wrth fodd arlunydd a chilfachau Eryri. Ac heb fynd ymhellach ar fy ystori, ddarllenydd mwyn, dylwn dy rybuddio, rhag peri siom i ti, nad wyf yn meddwl dodi i lawr yma yr ymgom a gefais â'r ddau arlunydd enwog. Arhosasant hwy i wylio rhyw agweddau ar y Wyddfa, yn ei mawredd brenhinol. Disgynnais innau i lawr i'r ochr arall; a chyn hir ni welai'r ddau arlunydd, os rhoddasant funud o sylw i mi wedyn, ond ysbotyn du yn symud yn araf hyd y ffordd wastad tua'r gogledd. Cerddwn hyd wastad y morfa enillwyd oddiar y môr, wyth mil o aceri, ebe rhywun a gyfarfyddais. Ar y dde i mi codai mynyddoedd Meirionnydd eu pennau,—y Moelwyn a'r Cnicht; ac ar y chwith, dros y morfa, yr oedd mynyddoedd