Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/69

Gwirwyd y dudalen hon

toddi i'w gilydd, ac ni ŵyr athrawon y naill ddigon am y llall, fe ymfalchia'r naill wrth ddadwneud gwaith y llall. Ond y mae'r Ysgol Sul yn ysgol elfennol, yn ysgol ganolraddol, ac yn goleg ynddi ei hun. Addysgir y plentyn mwyaf araf a'r athraw mwyaf dawnus yn yr un ysgol, —y mae'n ysgol fabanod ac yn goleg hyfforddiadol ynddi ei hun.

ii.—Y mae'r Ysgol Sul wedi denu cenedl iddi, heb orfodaeth na chosb, heb ffon na gwialen, heb gynnyg gwobr na swydd. Yn lle y rhain y mae ganddi dri atyniad nerthol. Un yw ei hysbryd Cymreig; y mae'n Gymreig drwyddi,—wreiddyn, pren, a dail; ynddi hi y cafodd ysbryd y genedl Gymreig y corff perffeithiaf a hygaraf i ymwisgo ynddo. Yr ail atyniad yw ei natur ddemocrataidd; nid oes ynddi hi le i ymhonwr sefyll ar lwyfan, na lle i gyfoethog ddweyd wrth dlawd, Y cyfaill, dos i rywle is i lawr, nid oes dy eisiau yma." Y mae ysbryd cydraddoldeb perffaith yr efengyl yn anadlu'n rymus drwyddi. A'r trydydd atyniad yw y llenyddiaeth efrydir ynddi, llenyddiaeth fwyaf y byd, casgliad ardderchog o ganeuon, croniclau, breuddwydion, ac athroniaeth; llenyddiaeth sydd yn ddigon eang i ddeffro'r meddwl cryfaf, ac yn ddigon dynol i swyno'r meddwl symlaf. Cymharer y corff hwn o lenyddiaeth â chynnwys egwan a masw llawer llyfrgell ysgol.

iii.—Y mae pob un yn yr ysgol hon yn athraw ac yn ddisgybl bob yn ail. Ufuddhau a rheoli bob yn ail oedd yn gwneud y dinesydd perffaith yng nghyfnod aur bywyd Groeg. I athraw, nid