Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/79

Gwirwyd y dudalen hon

oedd yng ngweithrediad ei feddwl, wedi ei eni o elfennau rhyfedd, y Chwyldroad Ffrengig ac athroniaeth Hegel, dau allu mawr y dyddiau diweddaf hyn,—y naill y gallu dinistriol mwyaf, a'r llall y gallu creadigol mwyaf ym myd y meddwl. Ond cipolygon welent, a buont lawer blwyddyn yn disgwyl am beth wyddent oedd mewn bod, sef tryblith o ysgrifeniadau adawodd Islwyn ar ol pan fu farw yn 1878, yn chwech a deugain oed. Yn 1897, agos ugain mlynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd y peth dybid yr adeg honno oedd holl waith Islwyn, yn gyfrol yn cynnwys 864 tudalen, ac ar draws 38,000 llinell. Ni osododd y golygydd ei hun yn feirniad, cyhoeddodd bopeth fedrai gael, heb nodyn nac awgrym o'i eiddo ei hun; credai, a chred eto, y deuai trefnwyr a beirniaid i egluro byd Islwyn yn ei gyfanwaith. Prynnodd pum mil o Gymry y gyfrol fawr honno. Erbyn hyn y mae Islwyn yn llefaru o bulpudau pob enwad yng Nghymru, ac y mae ei feddwl wedi disgyn fel gwlith adfywiol ar holl ysbryd llenyddiaeth Cymru. Disgynnodd ar yr anuwiol nas adnabu ef, fel ar y duwiol a ymlonyddodd ynddo.

Yn anffodus iawn argraffwyd y gyfrol fawr heb wybod fod ysgriflyfr arall yn llechu o'r golwg. Cyhoeddwyd honno yn gyfrol yng Nghyfres y Fil yn 1903. Er edifeirwch dwys iddo, trodd y golygydd yn rhyw fath o esboniwr,—gwnaeth y darnau'n ddigyswllt, a rhoddodd benawdau iddynt, er nad oedd y rhain ond geiriau Islwyn ei hun. Ac yn awr temtir y beirniad arwynebol i weled un Islwyn yn y gyfrol fawr ac Islwyn arall yn y gyfrol fach, er fod cynnwys y ddwy wedi ei ysgrifennu ar yr un adegau, ac fel rhan o'r un cyfanwaith.