Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/84

Gwirwyd y dudalen hon

ar y bryniau, o'r lle y daeth teuluodd y gweithwyr ryw genhedlaeth yn ol. Bu'r cartref yn hunangynhaliol bron. Yn yr amaethdy mynyddig cysurus, yng nghysgod ei goed talfrig, gwenith neu geirch neu haidd wedi ei godi oddiar y gweirdiroedd o'i amgylch oedd grawn yr ymborth; cig wedi ei halltu gartref a physgod o'r afon a fwyteid; yr oedd llysiau bwyd a saig a meddyginiaeth yn tyfu yn yr ardd; yr oedd mawn a choed yn danwydd glân a digôst at y gaeaf. Ond, erbyn heddyw, nid oes amaethdy yn y wlad nad yw'n dibynnu am anhebgorion ei gysur, os nad ei fywyd, ar bron bob gwlad yn y byd. Lle bynnag y mae eisiau neu ddioddef, y mae dynolryw i gyd yn teimlo'r boen. Ac oherwydd fod dyn yn dod beunydd yn aelod cyflawnach o frawdoliaeth y byd, y mae cyfnewidiadau cymdeithasol mawrion gerllaw. Rhaid dod a rhyddid a deddf yn gysonach â'i gilydd, fel y try olwynion cyd-ddibynnol diwydiant yn esmwyth, heb lethu neb ac heb fynd yn ysgyrion eu hunain.

Yn y dyddiau hyn, dyddiau rhwng yr hen anibyniaeth tawel a'r gymdeithas gymhleth newydd, dyddiau rhwng yr hiraeth am yr hen wedi i'w ddiffygion fynd yn angof a'r newydd sydd eto heb ddadlennu ei fendithion, y mae'r meddwl yn agored i boen a phryder dau gyfnod llawn sy'n rhyfedd doddi i'w gilydd. Ni fu erioed gyfnod yn galw am gymaint o gryfder meddwl, o benderfyniad diysgog, o dawelwch yn wyneb siom a dioddef; ac nid rhyfedd fod llawer meddwl yn ymollwng dan y baich. "Na'ch sigler yn fuan oddiwrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer,"— ond pa help fedrir roddi i wneud hynny?