Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/92

Gwirwyd y dudalen hon

hyd-ddynt. Lle mae'r llwybrau NEWYDDION dorraist, rhai y gallai cenhedloedd eraill dy ddilyn yn hyfryd, fy nghened hoff? A oes gennyt ychwaneg na'r Ysgol Sul, y Cyfarfod Llenyddol, a'r Eisteddfod? Ac a yw hen lwybrau cenhedloedd eraill mor swynol fel na fynni dorri llwybrau i ti dy hun? Ai dilyn fynni, lle y rhoddodd Duw i ti athrylith i arwain?

Erbyn hyn y mae prifysgol i'r gweithwyr yn prysur dyfu, megis canghennau i Brifysgol Cymru. Y mae math ar undeb wedi ei ffurfio rhwng gweithwyr Cymru a cholegau'r Brifysgol. Y gwŷr a wnaeth yr undeb hwn yw gwŷr ieuainc gododd o fysg gweithwyr Cymru, ac sydd yn awr yn raddedigion y Brifysgol neu yn athrawon ynddi. Cyferfydd dosbarthiadau o wŷr ieuainc a merched ieuainc meddylgar a darllengar Cymru, wedi eu horiau gwaith, a daw athro atynt o'r Brifysgol, i roi iddynt ddarlith am awr, ac yna i arwain ymdrafodaeth am awr arall. Yn Lloegr y cychwynnodd y symudiad, ond yng Nghymru, neu o leiaf gan Gymro, y gwelwyd ei werth gyntaf, ac yng Nghymru y mae'r rhagolygon mwyaf addawol iddo. Nid yw wedi cael enw Cymraeg eto; y mae'r enw Saesneg, sef "Workers' Educational Association," yn rhy hir ac afrosgo, ac ni cheir ynddo lais i'r berthynas rhwng y gweithwyr a'r Brifysgol, sef y berthynas sy'n nodweddiadol o'r mudiad. Yr wyf wedi meiddio ei fedyddio yn Brifysgol y Gweithwyr."

"A fedr gweithwyr cyffredin, ar ol oriau blin eu llafur, wneud gwaith efrydwyr prifysgol? Gallant, y maent yn ei wneud, ac yn gwneud gwaith, mewn llawer man, sy'n deilwng o anrhydedd prifysgol.