Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/96

Gwirwyd y dudalen hon

LLWYBRAU NEWYDD

RHYW dro yr oedd y diweddar Arglwydd Coleridge wedi dod i ymweled â Benjamin Jowett. Tra yn aros i'r gŵr dysgedig a doeth ddod i mewn, cyfeiriodd rhyw ferch ieuanc oedd yn y cwmni at ei weddi dyddiol, sef ar iddo gael ei gadw rhag mynd yn geidwadol yn ei hen ddyddiau. Ac ebe Coleridge, mor ddifrifol a phe bai ar ganol rhoi ei ddyfarniad pwysfawr ar fainc y barnwr,— "Y mae llawer o weddiau fy nghyfaill wedi eu hateb, mae'n ddiameu. Ond ni atebwyd y weddi yna."

Mae'r un deddfau yn rheoli bach a mawr. Pan rewir y llynnoedd mawr, rhewir y llynnoedd bach. A gallwn ninnau, eiddilod, weddio gweddi Jowett, a heb ein hateb.

Yr wyf yn gweled fy nghydwladwyr yn cerdded llwybrau newydd bron bob dydd. Ac y mae rhai o'r llwybrau a'r mordeithiau yn ddieithr i ni, ac yn ddieithr, yn ol fy nhybiau a'm rhagfarnau, i natur y Cymro. Tybed fy mod i'n mynd yn geidwadol, ynte a wyf yn gweld eraill yn llusgo'u hangorion? Cymerwn drem ar bethau dibwys iawn, er mwyn i chwi fedru rhoddi goleuni imi ar fy llwybr.

Echdoe yr oeddwn yn teithio hyd y ffordd haearn i fyny i un o gymoedd glo Morgannwg. Yn yr un cerbyd â mi yr oedd gŵr ieuanc trwsiadus, gweithiwr mewn dillad gwyl, gyda wyneb glân hoffus,—un lonnodd lawer aelwyd fel plentyn ac fel priod, oherwydd dywedodd ei fod newydd briodi. Yr