Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth yn enw gwirionedd a ddarfu i chwi? Ai i chwarae'r ffon ddwybig y'ch gwahoddais i Brydain? Wele, mi a ddywedais ynof fy hun, ni wrandawant ar Iwan Trevethick am mai Iwan Trevethick ydyw, odid na wrandawant ar Paul. Erbyn hyn, wele Paul wedi dyfod, ond O! mor annhebyg ydyw iddo'i hun. Disgwyliais am lewddyn, ond llwfrddyn a ddaeth. Craig oedd o flaen fy nychymyg, ond ymenyn sydd o flaen fy llygaid. Edrychais am ŵr a ddatguddiai'r cerrig terfyn rhwng y byd a'r eglwys, yntau a gladdodd y garreg olaf. Disgwyliais am ddyn a gyhoeddai y gwir yn erbyn y byd '; yn lle hynny, mathrodd y gwir, a chydymagweddodd â'r byd. Bellach, Rodres, nac ofna. Ffug, cymer galon. Y Llo Aur, bydd fyw byth. Chwithau, Waseidd-dra a Gweniaith, teyrnaswch mewn heddwch. Wybodaeth, ymgryma i Gyfoeth. Gallineb, dod barch i Uchelgais. Llawenhewch, waseiddwyr, canys er pan ddaeth y Paul hwn i Brydain, fe chwanegwyd un at eich nifer. Ond ust! fy enaid, gwell yw ymliw nag ymson. Yn ddiau, Paul, siarad a gweithredu yn anghyson iawn a ddarfu i chwi heddiw, a gofidiaf am hynny hyd fy marw. Er hynny, aeth fy nigofaint heibio ar edyn y geiriau sydd newydd ddianc o'm genau. Yn awr gan hynny, Paul, pa lwybr a fyddai orau i mi ei gymryd i'ch cyfiawnhau? Geil fy