Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VIII

SYLWADAU AM Y RHYFEL NAD OEDD YN RHYFEL

FONEDDIGION,

"Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant. . . A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill." Dyna'r chwarae. The national game, neu glorious war, y geilw Cristnogion Seisnig y cyfryw chwarae.

*

Dywedir mai'r achos paham y rhoir cymaint llai o gosb ar ddyn am gicio ei wraig a hanner lladd ei fam nag am ddwyn torth geiniog neu ŵy petrisen i dorri ei newyn ydyw er mwyn cynnwys, ac felly ddatblygu splendid fighting qualities'—ysblennydd ansoddau ymladdol' y Saeson.

*

Y mae'n ddiau bod buchedd y rhan fwyaf o'r milwyr Prydeinig yn eu cartref, yn eu cymhwyso'n arbennig i chwarae â chleddyf ac â bidog ar faes y gwaed. Cânt yno ddigon o gyfleustra i ddangos eu