Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Megis o ddamwain, wedi'r cwbl, y gorchfygodd hi'r trueiniaid hynny, er mor anghynefin yr oeddynt â rhyfela. Yn wir, nid eu gorchfygu mewn brwydr a wnaeth hi, ond eu dychrynu trwy ddisgyn arnynt yn ddisymwth yng nghysgod y tywyllwch. Y mae'n wir fod bai mawr ar Arabi neu rywun am na fuasai'r wyliadwriaeth yn fanylach, a'r cloddiau'n uwch. Pe gwnaethid Tel-el-Kebir yn hanner tebyg i Kafr Dowar, buasai diweddiad pur wahanol i'r rhyfel. Fe allai fod yr Eifftiaid yn meddwl bod y Saeson yn rhy falch i ruthro arnynt yn y nos, ac yn rhy wâr i arfer llawer ar y bidogau yn ôl dull cigyddlyd rhyfelwyr gynt. Byddant yn gwybod y tro nesaf y ceisiant fwrw ymaith yr iau na thâl cymryd dim yn ganiataol mewn rhyfel. Os cymerir rhywbeth yn ganiataol am y Saeson, cymerer hyn: sef, y bydd iddynt, wrth ymladd â phobloedd an— nysgedig mewn rhyfel, hyderu mwy ar fidogau'r gwŷr traed ac ar gleddyfau'r gwŷr meirch nag ar ynnau.

*

Er cymaint yw rhagoroldeb y Saeson a'r Ysgotiaid fel ymladdwyr, rhaid cael Gwyddelod i'w llywyddu. Gwyddel, fel y gwyddys, oedd Wellington, a Gwyddelod yw Syr Garnet Wolseley a Syr Frederick Roberts. Y ddau olaf ydyw'r unig gadlywyddion