Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwyr ac areithwyr Seisnig politicaidd o'r lucidity hwnnw y soniai Matthew Arnold amdano y dydd o'r blaen. Fe allai y dylid maddau i'r rhai sydd yn ysgrifennu y brysnegesau, ond ni ddylid maddau i ysgrifenwyr illucid y prif erthyglau. Er hynny, gwych yw gweled dynion yn cyffesu eu hanwireddau hyd yn oed mewn Saesneg afloew.

*

Wel, ddarllenydd, a wyt ti'n meddwl y byddai'n ormod i'r Eifftiaid gipio a chrogi'r Saeson celwyddog y cyfeirir atynt yn y dyfynion uchod? Onid wyt yn meddwl y dylai pawb sy'n caru cyfiawnder yn fwy na swp o Saeson neilltuol ymuno i ddiarddelwi gweinidogion presennol brenhines y Saeson am orchymyn dinistrio dynion ac eiddo ar bwys celwydd a oedd mor olau dri mis yn ôl ag ydyw yr awr hon? Y mae'n bryd i'r genedl anhawddgar wybod bod yng Nghymru filoedd o wŷr y mae'n dra ffiaidd ganddynt fod o dan lywodraeth rhyw ddeuddeg o Abneriaid na allant ymatal am ychydig o dymhorau rhag dywedyd, "Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau."

Ydwyf, &c.,

E.

ALLAN O'R Faner, HYDREF 11, 1882.